Cynghrair y Cenhedloedd: Yr Eidal 1-0 Cymru

Barbara BonanseaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ymosodwr Juventus, Barbara Bonansea sgoriodd unig gôl y gêm

  • Cyhoeddwyd

Mae tîm pêl-droed merched Cymru wedi cael dechrau siomedig i'w hymgyrch ddiweddaraf yng Nghynghrair y Cenhedloedd ar ôl colli 1-0 i'r Eidal.

Barbara Bonansea sgoriodd unig gôl y gêm i'r tîm cartref yn Monza, ger Milan - a hynny yn y munudau agoriadol.

Dyma oedd gêm gyntaf Cymru yn eu hymgyrch ar ôl dychwelyd i haen uchaf y gystadleuaeth.

Mae Cymru yn cystadlu yng ngrŵp 4 gyda'r Eidalwyr, Denmarc a Sweden.

Cafodd Cymru'r dechreuad gwaethaf gyda'r Eidal yn llwyddo i sgorio o fewn y pum munud gyntaf.

Gyda chefnogwyr y tîm cartref yn cyffroi, parhau wnaeth cyfleoedd yr Eidal gyda pheniad arall yn dod yn agos at ddyblu ei mantais.

Daeth cyfle cyntaf Cymru gan Angharad James.

Wedi rhediad da gan Ceri Holland a'i chroesiad i Hannah Cain llwyddodd James i daro'r bêl tuag at y rhwyd ond methodd y targed.

Jessica FishlockFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Jess Fishlock yn dechrau'r gêm i Gymru

Cafodd Carrie Jones ei chyfnewid am Ffion Morgan yn ystod yr egwyl, a chychwynnodd yr ail hanner yn addawol gyda Ceri Holland yn achosi problemau i'r Eidalwyr.

Wedi 69 munud, cafodd Jess Fishlock a Ceri Holland eu tynnu oddi ar y cae, gyda Lois Joel a Mared Griffiths yn gwneud ei hymddangosiad cyntaf i Gymru.

Fe wnaeth Olivia Clark arbediad da i rwystro'r Eidal rhag dyblu eu mantais gyda rhyw 10 munud o'r chwarae yn weddill.

Bydd Cymru yn wynebu Sweden yn y Cae Ras yn eu gêm nesaf nos Fawrth, 25 Chwefror.