Comisiynydd Plant: Diffyg senedd ieuenctid yn annerbyniol

  • Cyhoeddwyd
Yr Athro Sally Holland

Mae Comisiynydd Plant newydd Cymru, yr Athro Sally Holland, wedi dweud wrth raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru ei bod hi'n annerbyniol mai Cymru yw'r unig wlad ym Mhrydain heb senedd ar gyfer plant a phobl ifanc.

Dywedodd yr Athro Holland: "Rydw i'n gwbl sicr y dylai plant a phobl ifanc Cymru gael mynediad i strwythur annibynnol fyddai'n galluogi nhw eu hunain i arwain ar newidiadau.

"Cymru yw'r unig wlad ym Mhrydain heb senedd genedlaethol i blant a phobl ifanc ac fel gwlad sy'n hynod falch o hyrwyddo a datblygu hawliau plant dylai'r sefyllfa yma fod yn annerbyniol."

Mewn ymateb mae llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod nhw'n annog pobl ifanc i ymddiddori mewn gwleidyddaeth.

Ychwanegodd bod Llywodraeth Cymru wedi clustnodi £1.8m ar gyfer Plant yng Nghymru, sefydliad ymbarel cenedlaethol sy'n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd er mwyn galluogi miloedd o bobl ifanc i drafod gyda gweinidogion ynglŷn â materion gwleidyddol.

'Arwain y gâd'

Dywedodd yr Athro Holland: "Mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu Plant yng Nghymru i redeg prosiect fydd yn galluogi rhai pobl ifanc i gymryd rhan ym mhenderfyniadau'r llywodraeth, ond dwi am weld pob plentyn a pherson ifanc yn cael mynediad i strwythur ddemocrataidd.

"Mae'n rhy gynnar i ddweud os yw pobl ifanc Cymru dan anfantais, ond mae'n sefyllfa dwi'n poeni yn ei chylch ac yn gweithio gydag eraill i sicrhau y bydd Cymru yn dal yn arwain y gâd o ran hawliau plant."

Ychwanegodd ei bod am weld "cynulliad ieuenctid sy'n cael ei arwain gan bobl ifanc Cymru yn cael ei sefydlu" ac y byddai, yn y pendraw, yn ei dal hi'n atebol.

Roedd cynllun o'r enw'r Ddraig Ffynci wedi cael ei sefydlu yn 2002 er mwyn rhoi cyfle i blant roi eu barn am bolisiau Llywodraeth Cymru.

Daeth y cynllun i ben ym mis Medi 2014.