Ateb y Galw: Wynne Evans

  • Cyhoeddwyd
wynne evans

Wythnos yma y canwr a'r cyflwynydd Wynne Evans sy'n Ateb y Galw. Cafodd Wynne ei enwebu gan Eleri Siôn yr wythnos diwethaf.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Fy atgof cynta' yw o fod yn fachgen bach yn edrych drwy ffenestr y tŷ yng Nghaerfyrddin yn aros i'r ysgol feithrin ddechrau... o'n i'n casau yr ysgol, yr unig beth da am y lle oedd bo' fi wedi cyfarfod fy ffrind Peter yno pan yn dair oed, ac ry'n ni'n ffrindiau gorau 40 mlynedd yn ddiweddarach.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn ieuengach?

Dyna chi gwestiwn! Wel, pan o'n i tua 14 roeddwn i mewn cariad yn llwyr efo Julia Roberts, a dwi'n meddwl mai 'Pretty Woman' yw fy hoff ffilm hyd heddiw. Fy nghariad cynta' yn 15 oed oedd Vanessa, aeth hi 'mlaen i fod yn blismones a dwi'n meddwl fod hi dal i fyw yn Sir Gâr.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Mae pethau fel'ma yn digwydd drwy'r adeg i fi! Nes i ddisgyn lawr grisiau rhywbryd pan oeddwn i ar y llwyfan. Unwaith fe lwyddais i 'sgubo pry o fy nhalcen ar y llwyfan yn syth i geg y brif actores - na'th hi bron tagu i farwolaeth... roedd hynna'n eitha embarrassing.

Ffynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n bosib cymharu troeon trwstan Wynne efo'r rhai sy'n digwydd i'r cymeriad cyfarwydd hwn!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Dwi'n crio trwy'r amser! Dwi'n un o'r bobl 'ma sy'n crio yn edrych ar raglenni am anifeiliad sy'n sâl. Nes i grio pan golles i fy rieni wrth gwrs, sy'n beth ofnadwy i fynd drwyddo.

Y tro diwethaf i mi grio odd mewn cinio i Hayley Parsons a oedd yn gadael fel perchennog Gocompare. Mae hi wedi bod yn rhan enfawr o fy mywyd i yn broffesiynol a dwi'n falch iawn o'i galw hi'n un o fy ffrindiau agosaf.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Dwi'n cnoi fy ngwinedd, dwi'n flêr, ond eto gydag obsesiwn o fod yn daclus yr un pryd. Fy mai mwya' o ran personoliaeth yw fy mod i'n gallu dal dig am byth, sydd ddim yn beth da yn y byd adloniant.

Dy hoff ddinas yn y byd?

Caerdydd! Dwi wrth fy modd gyda'r lle. Wnes i symud yma yn 1998 ac fe alla i ddweud yn onest ar ôl gweithio ledled y byd mod i byth yn hapusach na phan fydda i'n cerdded neu'n beicio o amgylch Caerdydd.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Dwi'n lwcus iawn i ddweud fy mod wedi cael nosweithiau arbennig iawn. Fe es i a Hayley Parsons i Downing Street yn ddiweddar ar Ddydd Gŵyl Dewi, ac fe gawson ni wahoddiad i Dŷ'r Cyffredin. Roedd hi'n noson wych.

Oes gen ti datŵ?

Nagoes ond mi fyswn yn hoffi un!

Dywedodd Rhys, cyfarwyddwr fy rhaglen ar S4C, 'Am Ddrama', ei fod wedi gwneud rhaglen am drefnwyr angladdau a phan maen nhw yn gweld tatŵ ar gorff marw, eu bod nhw'n meddwl 'mae ganddyn nhw dal bersonoliaeth'.

Felly gan fynd yn hŷn a phoeni llai a llai beth mae pobl yn ei feddwl dwi'n ystyried fwyfwy cael tatŵ. Baswn i'n hoffi cael llythrennau fy nheulu yn rhywle; fy ngwraig Tanwen, fi - Wynne, fy merch Ismay a fy mab Taliesin... ond yn anffodus mae hynna'n sillafu TWIT!

Disgrifiad o’r llun,

Falle basai syniad Wynne am datŵ yn atgoffa pobl am y teulu afiach gafodd ei greu gan Roald Dahl!

Beth yw dy hoff lyfr?

Dwi newydd ddarllen llyfr o'r enw 'The Secret' sydd wedi newid y ffordd dwi'n edrych ar y byd, rwy'n teimlo'n fwy positif ar ôl ei ddarllen.

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Fy wellies! Dwi'n cerdded gyda'r ci bob dydd felly mae nhw'n angenrheidiol!

Disgrifiad o’r llun,

Lwcus bod Wynne yn hoff o'i 'wellies' - mae eu hangen nhw yn y 'Steddfod'!

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

Dwi ond yn cael cyfle i weld ffilmiau i blant i ddweud gwir ond fe welais 'The Imitation Game' yr wythnos diwethaf ac roedd o'n wych!

Dy hoff albwm?

Fy hoff albwm yw albwm arias gan Montserrat Caballé. Mae ei fersiwn hi o'r aria o 'La Rondine' yn gwneud i mi grio bob tro.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddi di'n ei ddewis?

Cwrs cynta' - scallops a phwdin gwaed.

Prif gwrs - stêc!

Pwdin - crymbyl riwbob a chwstard, er byddai'n rhaid cael digonedd o crymbyl ac hefyd galwyni o gwstard.

Yna byddai rhaid cael caws!

Pa un sydd orau, anfon neges tecst neu ffonio?

Yn sicr tecstio. Dwi byth yn ateb y ffôn, dwi'n ei gasau e. Os ydych chi'n anfon e-bost neu decst cewch chi ateb yn gyflym iawn fel arfer!

Pe taset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Wow! Barry Manilow dwi'n meddwl.... oherwydd mi fysa fo'n ddiwrnod rhyfedd iawn.

Disgrifiad o’r llun,

Gobeithio na fyddai Wynne yn baglu ar y llwyfan petai o'n cael cyfle i fod yn Barry Manilow am y diwrnod

Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos yma?

Alex Winters, cyflwynydd CBeebies