Tabledi colli pwysau: Rhybudd rhyngwladol
- Cyhoeddwyd
Mae Interpol wedi cyhoeddi rhybudd rhyngwladol am dabledi colli pwysau, wedi marwolaeth myfyrwraig o Brifysgol Glyndŵr, Wrecsam.
Fe gymrodd Eloise Parry - 21 oed o Amwythig - dabledi mae'r heddlu'n credu oedd yn cynnwys dinitrophenol, neu DNP.
Daw'r rhybudd wedi i ddyn yn Ffrainc gael ei daro'n ddifrifol wael wedi iddo gymryd tabledi tebyg.
Yn ôl Interpol, mae'r cyffuriau'n cael eu cynhyrchu mewn "labordai dirgel".
Bu farw Miss Parry yn Ysbyty Brenhinol Amwythig ar Ebrill 12. Mae ei mam, Fiona, wedi rhybuddio eraill i osgoi'r cyffur.
Mae Interpol wedi cyhoeddi'r rhybudd mewn 190 o wledydd.
'Bygythiad'
Yn y Rhybudd Oren - rhybudd penodol am ddiogelwch y cyhoedd - fe ddisgrifwyd DNP fel "bygythiad" i ddefnyddwyr.
Fe ddywedodd Interpol fod gwerthwyr ar-lein wedi ceisio cuddio'r cynnyrch rhag yr heddlu gan ei labelu fel tumeric - sbeis melyn sy'n debyg o ran edrychiad.
Mewn datganiad, fe ychwanegodd Interpol: "Er ei fod o fel arfer yn cael ei werthu fel powdwr melyn neu mewn tabled, mae DNP hefyd ar gael fel eli.
"Yn ogystal â chael ei gynhyrchu mewn labordai dirgel heb reolau hylendid, heb y wybodaeth arbenigol sydd ei angen, mae'r cynhyrchwyr yn peryglu defnyddwyr drwy gynyddu risg gor-ddos".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2015