Dathliadau yn Nghymru'n cofio diwedd y rhyfel
- Cyhoeddwyd
Ar Fai 8, 1945, roedd diwedd ar y brwydro yn Ewrop a chanodd clychau eglwysi Prydain.
Saith deg mlynedd ar ôl y digwyddiad mae clychau eglwysi wedi bod yn canu eto a choelcerthi'n cael eu cynnau er mwyn cofio diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop.
Am 15:00 roedd dwy funud o dawelwch.
Yng Nghastell Caerdydd roedd gynnau mawr yn tanio a hynny i nodi'r adeg pan gyhoeddodd y Prif Weinidog ar y pryd Winston Churchill fod yr Almaen wedi ildio.
Seiren
Roedd digwyddiadau tebyg yn cael eu cynnal yng ngweddill Cymru.
Yn Sgwâr y Frenhines yn Wrecsam roedd seiren i'w chlywed ac yn Llanelli roedd cyn filwyr yn gorymdeithio drwy'r dref cyn gosod torch ger cofgolofn.
Roedd yna barti yn Llanymddyfri ar thema'r 40au ac arddangosfa ceir clasurol yn Llandysul.
Dywedodd Kevin Forbes, un o swyddogion y Lleng Brydeinig yn y gogledd: "Roedd y diwrnod VE cyntaf yn rhywbeth gafodd ei drefnu gan y bobl gyffredin nid yr awdurdodau.
"Roedden ni'n awyddus i ailgreu awyrgylch y cyfnod, y teimlad o bobl yn dod at ei gilydd ....
"Ond yn ogystal â dathlu'r fuddugoliaeth, rydym hefyd am gofio'r rhai gafodd eu colli, yn Ewrop a'r Dwyrain Pell."
Coelcerthi
Nos Wener roedd y coelcerthi cyntaf yn cael eu tanio.
Roedd y goelcerth uchaf ym Mhen-y-fan ym Mannau Brycheiniog ar uchder o 2,907 o droedfeddi.
Roedd coelcerthi yng Nghaerdydd, Cydweli, Biwmares, Porth Tywyn, Abertawe, Y Trallwng a Doc Penfro.