Carwyn Jones: Angen i Lafur fod fwy 'o blaid busnes'

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Carwyn Jones fod angen i'r blaid gael neges glir eu bod eisiau gweithio gyda busnesau

Mae Prif Weinidog Cymru wedi galw ar i Lafur adeiladu gwell perthynas gyda busnes wedi i'r blaid golli yn etholiad cyffredinol 2015.

Fe wnaeth ei sylwadau ar ôl i'r Ceidwadwyr Cymreig ennill 11 sedd yng Nghymru - eu canlyniad Cymreig gorau ers 1983.

Ond mae cyn gynghorwr Llafur Cymru wedi dweud bod y blaid "yn gwadu" difrifoldeb eu colled yn yr etholiad cyffredinol nos Iau.

Dywed Plaid Cymru bod ganddi gynllun o hyd - cadwodd y blaid afael ar eu tair sedd, ond methon nhw ag ennill tir.

Er iddo fod yn etholiad 'trychinebus' i'r Democratiaid Rhyddfrydol, mae'r blaid yng Nghymru'n mynnu y gallan nhw adfywio ar ôl ennill un sedd Gymreig, tra bod UKIP yn dweud bod etholwyr wedi clywed eu neges yn glir ac mai nhw bellach yw'r drydedd blaid yng Nghymru.

Dywedodd Mr Jones y byddai'n hoffi gweld Llafur yn rhoi mwy o flaenoriaeth i fusnes nag y mae wedi gwneud dros y misoedd diwetha'.

Cafodd ei neges gefnogaeth aelod seneddol newydd Llafur yn Aberafan, Stephen Kinnock, a ddywedodd wrth BBC cymru fod gan Lafur "gyfle enfawr" i gyfathrebu'n "fwy adeiladol" gyda busnesau.

Awgrymodd hefyd bod angen i'r blaid "fynd yn ôl at ei gwreiddiau" a chyflwyno neges glir am degwch a chydraddoldeb.

Cyfran y pleidiau o'r bleidlais yng Nghymru o'i gymharu â 2010

  • Llafur 37% (36% yn 2010)

  • Ceidwadwyr 27% (26%)

  • UKIP 14% (2%)

  • Plaid Cymru 12% (11%)

  • Democratiaid Rhyddfrydol 6% (20%)

Disgrifiad o’r llun,

Mae David Taylor yn rhybuddio y gall Llafur weld canlyniadau siomedig yn etholiad y Cynulliad os nad oes newid

Yn y cyfamser, dywedodd David Taylor, oedd yn gynghorwr i Peter Hain yn Swyddfa Cymru, bod ymateb Carwyn Jones i'r canlyniadau wedi bod yn "hunanfodlon".

Fe wnaeth Llafur golli etholaethau Gwyr a Dyffryn Clwyd i'r Ceidwadwyr, ac fe fethon nhw a chipio seddau fel Gogledd Caerdydd a Bro Morgannwg, targedau'r ymgyrch.

Mae gan y Ceidwadwyr 11 o seddi yng Nghymru erbyn hyn, eu perfformiad gorau ers 1983.

Dywedodd Mr Taylor wrth BBC Cymru: "Dyma'r canlyniad gwaethaf i Lafur mewn 30 mlynedd.

"Mae'r arweinyddiaeth yn gwadu - ond roedd y canlyniadau yn drychinebus ac nid yw'r ymateb hunanfodlon gan y Prif Weinidog a Llafur Cymru yn mynd i newid hynny.

"Mae'r rhain wedi bod yn ganlyniadau anodd iawn i Lafur Cymru; mae angen meddwl dwys a newid dwys, nid mwy o'r un fath."

Ychwanegodd bod Carwyn Jones yn "brif weinidog gwych", ond bod ei swydd fel arweinydd Llafur Cymru yn dod gyda "chyfrifoldebau gwleidyddol".

Dywedodd: "Bydd y blaid mewn trafferth waeth yn etholiad y Cynulliad y flwyddyn nesaf os nad ydyn ni'n gwneud rhai newidiadau sylfaenol, a newidiadau polisi sylfaenol."