Gweinidiogion Llafur wedi 'datgysylltu gan realiti'
- Cyhoeddwyd
Mae cyn gynghorwr i'r blaid Lafur wedi beio canlyniadau etholiad siomedig i'r blaid yng Nghymru ar lywodraeth Lafur yng Nghymru sydd wedi "datgysylltu gan realiti".
Dywedodd David Taylor, oedd yn gynghorwr yn Swyddfa Cymru, bod gweinidogion yn amharod i gyfaddef eu bod yn gwneud camgymeriadau.
Fe wnaeth Llafur golli seddi Gŵyr a Dyffryn Clwyd i'r Ceidwadwyr, tra bod y Torïaid wedi sicrhau eu perfformiad gorau yng Nghymru ers 30 mlynedd gan gipio 11 sedd.
Mewn erthygl ar gyfer y Sefydliad Materion Cymreig, dywedodd Mr Taylor: "Llafur sy'n rheoli Llywodraeth Cymru. Llafur sy'n rheoli'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol Cymru.
"Ac ar lefel genedlaethol yn yr etholiad yma fe wnaeth y Ceidwadwyr fanteisio ar anhapusrwydd llawer o bobl gyda'r gwasanaethau yna sydd dan reolaeth Llafur.
"Yn syml iawn, fe wnaeth Llafur yn waeth yng Nghymru na rhannau o Loegr oherwydd eu bod mewn grym yng Nghymru ac mae'r llywodraeth yna yn gallu teimlo fel eu bod wedi datgysylltu gan realiti, yn cael trafferth moderneiddio, bod diffyg syniadau, ac yn methu derbyn pan mae camgymeriadau.
"Mae angen arweinyddiaeth well a mwy o gyfrifoldeb gwleidyddol cyn i'r wers yna gael ei hystyried heb son am ei dysgu."
Ychwanegodd bod y Ceidwadwyr wedi ennill yng Ngŵyr oherwydd eu bod wedi gosod eu hunain yn "glir yn y tir canol" a dangos eu bod yn "well gwrandawyr ac arweinwyr yn 2015".
Ddydd Sadwrn, dywedodd Mr Taylor bod Llafur Cymru "yn gwadu" difrifoldeb canlyniadau'r etholiad cyffredinol.
Fe wnaeth y Prif Weinidog Carwyn Jones awgrymu bod Llafur angen creu gwell cysylltiad gyda busnesau a chreu brand "Cymreig" cryfach.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mai 2015
- Cyhoeddwyd9 Mai 2015