Arddangos 'llyfr coll' Dylan Thomas
- Cyhoeddwyd
Bydd "llyfr nodiadau coll" Dylan Thomas yn cael ei arddangos am y tro cyntaf yn ninas enedigol y bardd ddydd Iau.
Fe fydd y llyfr yn cael ei arddangos ar Ddiwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas yn Abertawe - y tro cyntaf i'r diwrnod gael ei ddathlu.
Roedd yr hen lyfr ysgrifennu yn gorwedd mewn cwpwrdd am ddegawdau, cyn i Brifysgol Abertawe ei brynu am £104,500 fis Rhagfyr y llynedd.
Bydd arddangosfa yn galluogi 200 o bobl i weld y llyfr.
Cafodd y llyfr ei ddisgrifio gan yr Athro John Goodby o Brifysgol Abertawe fel y "greal sanctaidd" i academyddion sydd yn astudio gwaith y bardd, a'r darganfyddiad mwyaf cyffrous sydd yn gysylltiedig â Thomas ers ei farwolaeth yn 1953.
Y gred yw bod Dylan wedi gadael y llyfr yn nhŷ ei fam yng nghyfraith yn y 1930au, ond fe aeth yn anghof dros y blynyddoedd.
Mae'r llyfr yn un o bum llyfr nodiadau gafodd ei ddefnyddio gan y bardd - ac mae'r pedwar arall ym Mhrifysgol Talaith Efrog Newydd yn Buffalo.
Bydd yn llyfr yn cael ei arddangos o dan haen o wydr i'w ddiogelu, ond fe fydd ei gynnwys yn cael ei arddangos ar sgrîn.
'Anghygoel'
Mae'r arddangosfa yn cael ei chynnal yn siambr cyngor Prifysgol Abertawe, ac mae'n digwydd ar yr un diwrnod o'r flwyddyn a phan gafodd Under Milk Wood ei pherfformio am y tro cyntaf yn Efrog Newydd yn 1953.
Dywedodd Jeff Towns, perchenog Dylan's Bookstore, oedd yn llwyddiannus yn eu hymgais yn yr ocsiwn i sicrhau'r llyfr ar gyfer Prifysgol Abertawe, bod y llyfr "anhygoel" i'w "ryfeddu ato, i'w astudio, a'i fwynhau."
Bydd y llyfr yn cael ei gadw yn Archif Richard Burton y brifysgol, sy'n cadw dyddiaduron a gwaith papur yr actor.
Fe fydd wyres Dylan Thomas, Hannah Ellis yn ymweld â'r arddangosfa, ar ôl cael cyfle i weld y llyfr cyn yr agoriad swyddogol.
Mae hi hefyd wedi ymweld ag ysgol yn nwyrain Llundain sydd yn cynnwys copi o sied enwog ei thaid lle'r oedd yn ysgrifennu llawer o'i waith, gan gyhoeddi apêl i greu cerdd newydd dwyieithog 100 llinell o hyd sydd wedi ei hysbrydoli gan eiriau'r bardd.
Bydd y sied yn ymweld â Chaerdydd ddydd Iau, ac yn cael ei gosod tu allan i ganolfan siopa Dewi Sant.
Dywedodd Ms Ellis: "Mae hon yn foment gyffrous iawn - Diwrnod Dylan cyntaf erioed i ddathlu hud gwaith ysgrifennu fy nhaid."