Cyhoeddi cymorth awtistiaeth 'mwy prydlon'

  • Cyhoeddwyd
plentyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwneud diagnosis cywir mewn achosion o awtistiaeth yn gallu bod yn heriol

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwario £2.6m er mwyn gwella'r gefnogaeth sydd ar gael i bobl sydd ar y sbectrwm awtistig - a rhoi gwasanaeth mwy prydlon yn y dyfodol.

Yn ôl y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford, bydd cynllun newydd yn cael ei weithredu er mwyn gwella'r broses o roi diagnosis i unigolion, a lleihau rhestrau aros ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol.

Mae gan tua 1% o blant Cymru awtistiaeth o ryw fath - ac mae'r llywodraeth wedi cael cwynion bod y broses o gynnig diagnosis yn anghyson neu yn rhy araf.

Yn ôl y llywodraeth mae ganddyn nhw gynllun gweithredu sydd yn ceisio cwrdd â'r angen.

Dywedodd Mr Drakeford: "Rwy'n falch iawn o gyhoeddi nifer o fesurau newydd i wella'r proses o roi diagnosis i blant, pobl ifanc ac oedolion ag anhwylder ar y sbectrwm awtistig a'r gwasanaethau sydd ar gael i'w cefnogi.

"Mae'r cynllun hwn, gyda mwy na £600,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru, yn amlinellu'r hyn rydyn ni eisiau ei gyflawni dros y 12 mis nesaf, a bydd ei ganlyniadau'n dylanwadu ar benderfyniadau ynghylch nodau hirdymor.

"Rydyn ni hefyd yn buddsoddi £2m i ddatblygu gwasanaethau penodol er mwyn rhoi diagnosis a chymorth gwell i bobl ifanc ag ADHD ac ASD.

"Bydd yn lleihau amseroedd aros am wasanaethau iechyd meddwl arbenigol plant a'r glasoed fel bod y rhai â'r anghenion clinigol mwyaf yn cael eu gweld yn fwy prydlon."