Treial band eang yn dechrau yn Abertawe
- Cyhoeddwyd

Mae tua 100 o gartrefi a busnesau yn Abertawe i dderbyn gwasanaeth band eang tra-chyflym fel rhan o dreial gan gwmni BT.
Mae BT yn sefydlu ei labordy brawf yn nhŵr y cwmni yn y ddinas.
Fe fydd y dechnoleg yn galluogi i bobl gael gwasanaeth cyflymach ar y we nac erioed o'r blaen, ac mae wedi cael ei dreialu yn Suffolk eisoes.
Dywedodd Mike Galvin ar ran cwmni BT: "Mae gwaith ymchwil BT i dechnoleg tra-chyflym 'G.fast' nawr yn symud allan o'r labordai ac allan i'r byd go iawn.
"Bydd ein gwaith ymchwil technegol yn ein galluogi i bwyso a mesur y ffordd orau o gyflenwi cyflymderau tra-chyflym i fflatiau a busnesau ar hyd a lled y wlad".