Hoff Le: Eich lluniau chi
- Cyhoeddwyd
Croeso i'r casgliad cyntaf o rai o'r llu o luniau 'Hoff Le' hyfryd sydd wedi cyrraedd BBC Cymru Fyw cyn belled.
Mae 'na ddigon o amser i gyfrannu ac mae manylion sut i gysylltu i gyd ar y dudalen yma.
Edrych 'mlaen i weld eich lluniau ac i ddarllen eich straeon.
"Dyma lun o'r olygfa wrth sefyll ar frig ein mynydd bach yma yng Nghaerffili. Un o fy hoff fannau i gerdded gyda chwmni fy nghi, Cadi, yn enwedig ar nosweithiau yn yr haf er mwyn cael seibiant bach rhag yr holl adolygu!"
Meddai Anwen Evans: "Un o fy hoff lefydd yw Tŷ Mawr Wybrnant ger Penmachno, Dyffryn Conwy, sef cartref yr Esgob William Morgan.
"Yr ardd, gyda phlanhigion yn adlewyrchu yr ardd fel ag yr oedd hi yn y 16eg ganrif, yw fy hoff le - eistedd ar fainc fach ger wal gerrig, gyda choeden afalau yn ymestyn ei brigau dros y fainc, ac afon yn llifo gerllaw, Arogl hyfryd y blodau yn gymysg efo'r mwg coed tân o simdde'r tŷ, a'r adar yn canu. Yn wir, yng ngeiriau R Williams Parry: "...mae yno flas y cynfyd, yn aros fel hen win".
"Mae'r holl ardal yn brydferth tu hwnt, ond yn bennaf oll, mae'r llonyddwch a'r distawrwydd yn falm i'r enaid."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mai 2015
- Cyhoeddwyd21 Mai 2015
- Cyhoeddwyd22 Mai 2015
- Cyhoeddwyd21 Mai 2015