Bardd y Plant

  • Cyhoeddwyd
aneurin ac anni
Disgrifiad o’r llun,

Aneirin Karadog gyda Anni Llŷn ei olynydd fel Bardd Plant Cymru

Anni Llŷn fydd yn olynu Aneirin Karadog fel Bardd Plant Cymru. Cafodd y cyhoeddiad ei wneud yn Eisteddfod yr Urdd, Caerffili ar bnawn Mawrth 26 Mai.

Bydd Anni yn cymryd yr awenau ym mis Medi pan ddaw cyfnod Aneirin wrth y llyw i ben. Bu Aneirin yn rhannu ei brofiadau gyda Cymru Fyw am y ddwy flynedd ddiwethaf:

'Gwefr'

Mae'r fraint a'r balchder o gael bod yn Fardd Plant Cymru yn rhywbeth a arhosiff gyda fi am byth.

Felly cyn i mi drosglwyddo awennau'r parchus arswydus swydd i Anni bydd cyfle i ni'n dau gydwethio dros y haf ac i fi rannu gair o gyngor neu brofiad, gan drio peidio ag ymyrryd o gwbwl ar weledigaeth y Bardd Plant Cymru nesaf.

Mae antur a hanner o flaen Anni, gallaf ei sicrhau hi! Mi fydd yn dod i nabod pob twll a chornel o Gymru, a thyllau a chorneli na wyddai erioed amdanynt, heb sôn am orfod osgoi tyllau mewn hewlydd a chorneli tynn y wlad.

Mi fydd yn dod i weld mor wych yw'r gwaith y gwna athrawon Cymru (drwyddi draw) wrth geisio addysgu'r tô ifanc.

Mi fydd yn dod ar draws nifer o acenion gwahanol, rhai yn newydd i glust y fro Gymraeg sydd angen eu derbyn fel darnau o glytwaith acenion Cymru bellach, o blant y Rhondda, Caerdydd a Gwent.

Mi fydd yn clywed rhai plant yn sibrwd â'i gilydd yn Saesneg ac mi fydd yn ymfalchïo o glywed rhai plant yn bloeddio ar ei gilydd yn Gymraeg.

Cariad at iaith

Yn fwy na dysgu am farddoni, teimlaf fod gyda'r Bardd Plant rôl hanfodol yn cyflwyno elfen o hwyl i'r dosbarth ac yn dangos fod y Gymraeg yn berthnasol i fywydau plant wrth iddyn nhw brifio. Nid pob un a brififf i fod yn brifardd, ond gellir magu anwyldeb a chariad at iaith wrth gael hwyl gyda hi.

Fel rhywun sydd fy hunan wedi cael deiagnosis hwyr o fod yn ddislecsig, nid yw hynny wedi rhwystro fy hoffter o chwarae â geiriau na chwaith wedi bod yn rwystr i allu mynd trwy brofion y byd academaidd yn weddol llwyddiannus.

Roedd cael bod yn Fardd Plant Cymru er gwaetha y label o ddislecsia felly yn hwb mawr i'r hyder.

Mi ddaw sawl cyfle annisgwyl i ran fy olynydd, a does dim modd rhagweld pa gyfleoedd fydd y rheiny cyn iddyn nhw lanio.

Ffynhonnell y llun, Bardd Plant Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Aneirin ac Eurig Salisbury yn joio mas draw gyda beirdd ifanc yn Eisteddfod yr Urdd Sir Benfro

Creadigrwydd

Ces innau fynd i gynhadledd am addysgu barddoniaeth a fydd yn dylanwadu ar bolisïau'r Cyngor Celfyddydau a, thrwy hynny, o bosib, y modd y mae Llywodraeth yn gweld y celfyddydau a chreadigrwydd ym myd addysg.

Ces fynd i gynhadledd ryngwladol o feirdd plant eraill gan gynrychioli Cymru mewn gwledydd fel Awstralia, y Ffindir, Iwerddon, Mecsico, Prydain, Sweden a'r Iseldiroedd.

Ces greu cymuned farddonol drwy lansio'r gerdd fawr gan greu fideo 16 munud o hyd yn llawn o benillion gan blant ledled Cymru.

Ces wneud gweithdy barddoni drwy Skype gyda disgyblion Ysgol yr Hendre, Trelew, Patagonia, a lansio maniffesto i bobl ifanc Cymru ym Mae Caerdydd - i'r gwleidyddion gael ei glywed.

Yn fwy na dim, ces ddod i nabod ein gwlad a'i dyfodol gan gael y cyfle unigryw i geisio bod yn ddylanwad cadarnhaol ar weddill eu bywydau.

Os bydd ond un plentyn yn penderfynu newid ei ffordd o fyw er lles y Gymraeg gan ddylanwadu yn ei dro ar eraill, mi fyddaf wedi llwyddo.

Pob lwc i Anni a ddaw i lenwi fy 'sgidiau maint 10 a hanner!

Disgrifiad o’r llun,

Mae Aneirin wedi cael boddhadd mawr o fod yn Fardd Plant Cymru