Anni Llŷn yw Bardd Plant Cymru

  • Cyhoeddwyd
Anni Llŷn
Disgrifiad o’r llun,

Yn wreiddiol o Sarn Mellteyrn ger Pwllheli, mae Anni yn wyneb cyfarwydd yn barod

Mae'r gyflwynwraig deledu a'r awdures, Anni Llŷn, wedi cael ei phenodi yn Fardd Plant Cymru ar Faes Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerffili.

Yn wreiddiol o Sarn Mellteyrn ger Pwllheli, aeth i Ysgol Gynradd Pont y Gof, Ysgol Uwchradd Botwnnog a Phrifysgol Caerdydd lle graddiodd mewn Cymraeg, cyn dilyn cwrs ôl-radd yn arbenigo mewn ysgrifennu creadigol.

Enillodd wobr Prif Lenor yr Urdd yn Eryri 2012 gyda gwaith ar y thema Egin. Mae hi wedi cyhoeddi nofel antur i blant o'r enw 'Asiant A', a 'Nanw a Caradog Crafog Llwyd Lloerig' fel rhan o Gyfres Lolipop o lyfrau.

Mae hi'n wyneb cyfarwydd i blant a phobl ifanc Cymru'n barod, ar ôl iddi dreulio pum mlynedd yn ei swydd yn cyflwyno'r rhaglen Stwnsh ar S4C.

'Tasg a hanner'

Wrth edrych ymlaen at y gwaith o ymweld ag ysgolion ymhob cwr o Gymru fel rhan o'i swyddogaeth fel Bardd Plant Cymru, dywedodd Anni Llŷn: "Bydd rhaid cofio fod pob plentyn a phob ysgol yn wahanol.

"Dwi wedi dysgu dros y blynyddoedd bod rhaid meddwl ar dy draed wrth drin â chriw newydd sbon o blant ac amrywio'r dull o gyfathrebu.

"Mi fydd hynny'n dasg a hanner wrth deithio i gymaint o ysgolion gwahanol dros Gymru, yn ogystal â chael pawb i ddeall fy acen Pen Llŷn."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Anni yn cymryd yr awenau gan y bardd plant presennol, Aneirin Karadog ym mis Medi

Cynllun ar y cyd yw Bardd Plant Cymru rhwng Llenyddiaeth Cymru, Urdd Gobaith Cymru, S4C, Cyngor Llyfrau Cymru ac Uned y Gymraeg yn y Gymuned, Llywodraeth Cymru.

Mae rhestr faith o feirdd wedi derbyn yr anrhydedd o fod yn fardd plant, Caryl Parry-Jones, Gwyneth Glyn, Mererid Hopwood, Tudur Dylan Jones, Ceri Wyn Jones, Menna Elfyn, Mei Mac, Myrddin ap Dafydd, Ifor ap Glyn, Dewi Pws, Eurig Salisbury ac Aneirin Karadog.

Ychwanegodd Anni: "O edrych yn ôl ar y beirdd talentog sydd wedi gwneud y swydd hon yn barod, mae'n rhaid i mi gyfaddef fy mod i'n eithaf nerfus, ond dwi hefyd yn hynod gyffrous mod i'n cael y fraint o fod yn Fardd Plant Cymru".