Defnydd cynyddol o ambiwlansys preifat yn costio £2m

  • Cyhoeddwyd
Cymdeithas Ambiwlans Sant Ioan
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd criwiau preifat eu defnyddio 9,242 o weithiau'r llynedd

Mae penaethiaid y gwasanaeth ambiwlans wedi ceisio tawelu meddyliau'r cyhoedd am ddefnydd o griwiau a cherbydau allanol wedi iddi ddod i'r amlwg eu bod yn cael eu defnyddio'n amlach ac ar gost uwch.

Dywedodd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru bod gan ambiwlansys preifat yr un offer ac yr un safon o staff ag unrhyw gerbyd arferol y Gwasanaeth Iechyd.

Mae gwybodaeth gafodd Plaid Cymru trwy gais dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn dangos bod y nifer o weithiau gafodd griwiau preifat eu defnyddio wedi codi o 1,248 yn 2012/13 i 9,242 y llynedd.

Fe gynyddodd y gost o ddefnyddio cwmnïau preifat, fel Cymdeithas Ambiwlans Sant Ioan, o £172,000 i dros £2m yn yr un cyfnod.

Dydi hi ddim yn glir faint o weithiau y maen nhw wedi cael eu defnyddio i ateb galwadau brys.

Mae Plaid Cymru yn dweud bod y gwasanaeth angen cynllun hirdymor i ateb y broblem.

Dywed yr ymddiriedolaeth ei fod wedi wynebu cynnydd yn y galw dros y flwyddyn ddiwethaf.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Cymdeithas Ambiwlans Sant Ioan yn un o'r sefydliadau sy'n cael eu defnyddio'n fwy aml

'Cynyddu capasiti'

Dywedodd y cyfarwyddwr gweithredol Patsy Roseblade: "Dyma pam rydyn ni wedi bod yn defnyddio amrywiaeth o gwmnïau yn y misoedd diwethaf, gan gynnwys cyflenwyr o'r sector breifat a'r drydydd sector, i gynyddu ein capasiti wrth i ni aildrefnu ein hadnoddau ein hunain."

Mae ambiwlansys preifat wedi bod yn cael eu defnyddio yn bennaf yn ne-ddwyrain Cymru yn ardaloedd byrddau iechyd Cwm Taf, Aneurin Bevan a Chaerdydd a'r Fro.

Dywedodd y gwasanaeth bod cwmnïau preifat wedi cael eu defnyddio ar gyfer gwaith nad oedd yn frys yn y gorffennol, ond yn ddiweddar, eu bod wedi dewis eu defnyddio ar gyfer galwadau brys yn ogystal.

Dywedodd lefarydd iechyd Plaid Cymru, Elin Jones: "Cefais fy nychryn pan welais faint y cynnydd yn y defnydd o ddarparwyr preifat gan yr Ymddiriedolaeth.

"Mae'r cynnydd dramatig yn y defnydd o ambiwlansys preifat ar gyfer cludo mewn argyfwng yn arwydd o angen dybryd am gynllun tymor-hir i gwrdd â'r galw yn fewnol."

Mae defnydd y gwasanaeth o dacsis wedi cynyddu yn ogystal o 682 o weithiau dair blynedd yn ôl i 868 o weithiau y llynedd, oedd yn golygu cost o £10,000.