Rhaglen Antiques Roadshow y BBC ym Môn

  • Cyhoeddwyd
Gwerthuso lluniau

Bydd rhaglen deledu boblogaidd y BBC, Antiques Roadshow, yn ymweld â thir Plas Newydd yn Llanfairpwll ar Ynys Môn ddydd Iau.

Bydd rhai o arbenigwyr pennaf Prydain ar hen bethau a chelfyddydau cain wrth law i gynnig cyngor ac i brisio eitemau yn rhad ac am ddim, felly mae ymwelwyr yn cael eu hannog i wagio'r atig a dod â'u hetifeddion teuluol, eu trysorau cartref a'u bargeinion cist car draw i'w harchwilio.

Dywedodd cyflwynydd Antiques Roadshow, Fiona Bruce: "Hwn fydd fy wythfed flwyddyn ar yr Antiques Roadshow ac rwy'n dal i deimlo mor lwcus i fod yn cyflwyno'r rhaglen.

"Mae bob wythnos yn wahanol: lleoliad newydd a miloedd o ymwelwyr newydd. Yr unig beth cyson yw pleser yr annisgwyl - dydyn ni byth yn gwybod beth fyddwn yn ei weld, o'r Fabergé mwyaf anhygoel i wrthrych digon di-nod ond sydd â stori afaelgar".

Yn ystod y gyfres ddiwethaf dadorchuddiodd Antiques Roadshow rai darganfyddiadau anhygoel - portread gan artist enwog a baentiwyd ar obennydd mewn gwersyll carcharorion rhyfel, deunydd Star Wars oedd werth £40,000 a blwch enamel Tseiniaidd a brynwyd am 20c ac oedd werth dros £10,000.

Dywedodd Uwch Olygydd Antiques Roadshow, Simon Shaw: "Rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at ein hymweliad â Phlas Newydd. Roedd yn rhyfeddol i glywed am 'Arwerthiant Mawr Môn' yn 1904, oedd yn cynnwys dros 40,000 eitem, ac a gynhaliwyd i adennill rhai o ddyledion pumed Ardalydd Môn.

"Os oes gan unrhyw un o bosib rai o'r pethau a werthwyd yno, byddai'n wych pe gallent ddod â nhw draw i ddangos i'n harbenigwyr. Efallai y byddwn yn gallu helpu gyda chludiant os yw'r eitemau yn fawr."

Ychwanegodd: "Rydym wrth ein boddau yn cyfarfod ag ymwelwyr â'r Antiques Roadshow, gweld eu trysorau a chlywed eu hanesion. Mae cynifer o bobl yn dweud wrthym gymaint y maen nhw'n mwynhau'r diwrnod, maent yn cael cyfle i gwrdd â Fiona a'r arbenigwyr, a mynd tu ôl i'r llenni i weld sut mae'r Antiques Roadshow yn cael ei gynhyrchu.

"Hyd yn oed ar ôl 38 mlynedd, mae'r fformiwla hud honno o fedru rhoi newyddion cyffrous am eu trysorau i rai o'n gwesteion lwcus yn dal i roi gwefr i ni, i'r ymwelwyr ac i'n gwylwyr."

Bydd y drysau'n agor ddydd Iau am 09:30 ac yn cau am 16:30. Mae mynediad i'r sioe yng ngerddi Plas Newydd yn rhad ac am ddim er bydd y tŷ ei hun ar gau, ac mae croeso i bawb - nid oes angen cofrestru o flaen llaw.