Marwolaethau Llanberis: Cyhoeddi enwau
- Cyhoeddwyd
![Llanberis](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/624/mcs/media/images/83470000/jpg/_83470654_llanberis.jpg)
Y gwasanaethau brys ger lleoliad y digwyddiad ddydd Sul
Mae Crwner Gogledd Orllewin Cymru wedi agor ymchwiliad i farwolaethau dau ddyn fu farw mewn ceunant ger Llanberis ddydd Sul.
Roedd Alexander Hadley yn 21 oed ac o Ddinorwig ac roedd Steffan Roberts Vernon yn 33 oed ac o Gaernarfon. Fe fydd cwest i'w marwolaethau yn agor yn ddiweddarach.
Cafwyd hyd i gyrff ar ôl iddyn nhw fynd i drafferthion wrth nofio ger rhaeadr yn y pentref.
Fe gafodd dau ddyn arall, 27 a 25 oed, eu cludo i'r ysbyty cyn cael eu rhyddhau.
Mae Heddlu Gogledd Cymru'n parhau i ymchwilio i gefndir y digwyddiad.
![Llanberis](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/624/mcs/media/images/83473000/jpg/_83473670_waterfall.jpg)
Y rhaeadr lle bu'r dynion yn nofio
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2015