Adroddiadau o 'ffrwydrad' ar safle diwydiannol ym Môn
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwasanaeth tân wedi eu galw i adroddiadau o "ffrwydrad" ar Ynys Môn.
Fe wnaeth criwiau ymateb i adroddiadau o dân a mwg ar safle cwmni powdwr alwminiwm Alpoco yng Nghaergybi am 03:30 fore Llun.
Bu'r A55 ar gau am gyfnod byr rhwng cyffordd 1 a chyffordd 3 oherwydd pryder am ragor o ffrwydriadau, meddai Heddlu'r Gogledd.
Mae un injan dân yn parhau ar y safle.
Fe wnaeth nifer o griwiau fynychu'r safle, ac ar ôl cael ei archwilio, cafodd ei ddatgan yn ddiogel ac fe gafodd y ffyrdd eu hailagor.
Mae'r safle yn parhau ar gau, ond mae disgwyl iddo ailagor yn ddiweddarach ddydd Llun.