Amser i ail-asesu'r Wladfa?
- Cyhoeddwyd
Dr Lucy Taylor o adran Wleidyddiaeth Rhyngwladol Prifysgol Aberystwyth sy'n dadlau fod nodi 150 o flynyddoedd ers ffurfio'r Wladfa Gymreig yn gyfle i edrych yn agosach ar ei lle o fewn gwleidyddiaeth y byd.
Roedd Gwladfa Patagonia yn rhan o fenter byd-eang o allfudo a gwladychu. Roedd Prydeinwyr anhapus, tlawd ac uchelgeisiol yn mynd ymaith i Awstralia, yr Unol Daleithiau a Chanada er mwyn gwneud eu ffortiwn.
Yn wir, taith gan Michael D Jones i Wisconsin a'i waith a'r 'Cymro Americanaidd' Edwin Roberts a ysgogodd y penderfyniad i greu gwladfa ym Mhatagonia.
Roedden nhw'n cydnabod fod y Cymry yn cael eu hystyried yn israddol o fewn y byd pwerus, Saesneg ei iaith, ac nid yn unig gartref yng Nghymru, a oedd dan ddylanwad y Welsh Not, ond hefyd yn yr UDA.
Yno, o geisio gwarchod diwylliant Cymreig, roedd peryg o beidio gallu mwynhau cyfleoedd y ffordd Americanaidd o fyw.
Y ddadl oedd bod angen lle ble y gallai'r Cymry ffynnu yn ddiwylliannol ac yn economaidd, yn eu hiaith eu hunain ac ar eu termau eu hunain. Y dyhead yma arweiniodd at chwilio am wladfa a mamwlad Gymreig.
Yn y modd yma, roedd y Cymry wedi llywio rhesymeg gwladfaol byd-eang, yn ogystal â chael eu targedu ganddo.
O dan arweinyddiaeth Michael D Jones, trefnodd y Cymry gyda llywodraeth yr Ariannin eu bod yn ymgartrefu yn Nyffryn Chubut. Fodd bynnag, roedd y llywodraeth yn gweinyddu'r tir hwn mewn enw yn unig, gan ei fod yn cael ei lywodraethu gan gymunedau brodorol.
Bywyd "gwaraidd."
Yn wir, dim ond hanner y wlad a elwir Argentina ar y map oedd y llywodraeth yn ei reoli. Roedd y Wladfa yn rhan o strategaeth ganddyn nhw i fewnosod Ewropeiaid ac i ledu eu rheolaeth. Eu gobaith oedd y byddai'r Cymry yn datblygu'r tir, yn achosi ffyniant ac yn dod â gwareiddiad i'r 'Indiaid barbaraidd'.
Roedd yr 'Indiaid barbaraidd' yma yn byw yn rhydd mewn byd cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol-gymhleth. Roedd y cymunedau crwydrol yn dilyn llwybrau a oedd yn cael eu siapio gan y tywydd, mudiad yr anifeiliaid hela, dadleuon gwleidyddol neu pryd oedd y caeau mefys maith yn yr Andes yn aeddfedu.
Roedden nhw'n masnachu gyda phobloedd brodorol eraill yn ogystal â gwladfa y Patagones tua'r gogledd. Yma roedden nhw'n gwerthu crwyn y guanaco a phlu'r estrys a fyddai'n cael eu defnyddio i addurno hetiau yn Buenos Aires, Llundain a Paris.
Nid oedd eu hunanreolaeth yn cael ei aflonyddu, doedd neb yn herio eu hiaith a'u diwylliant ac roedd modd iddyn nhw deithio, hela a masnachu yn rhydd. I'r byd yma y cyrhaeddodd y Cymry.
Effaith y Glaniad
Roedd y Wladfa yn cynnig gorsaf fasnachu mwy cyfleus i'r brodorion, felly ar ôl y cyswllt cyntaf, naw mis wedi'r Glaniad, daethon nhw'n rheolaidd â chrwyn a phlu i'w cyfnewid am flawd, siwgr, reis, halen, baco ac alcohol.
Roedd y Cymry wedyn yn gwerthu'r crwyn a'r plu i fasnachwyr yn Buenos Aires a thrwy hyn (a thrwy fasnachu ag eraill) roedd modd iddyn nhw brynu da byw, offer fferm a deunyddiau i adeiladu ysgolion a chapeli y bywyd Cymreig. Y busnes yma â'r 'Indiaid' oedd sylfaen llwyddiant y gymuned Gymreig.
Ond yn fwy na hynny, dysgodd y brodorion - yn arbennig arweinydd y Tehuelche, Francisco - y Cymry i ffynnu a mwynhau bywyd ar y paith. Gwerthodd Francisco geffylau iddyn nhw am ychydig o fara, a dysgu iddyn nhw sut i farchogaeth a theithio ar hyd y tirwedd anodd, sut i ddefnyddio bolas a laso, a sut i hela'r anifeiliaid gwyllt a roddai gig blasus iddyn nhw, a'i goginio ar asado o amgylch coelcerth.
Roedd y brodorion wrth eu bodd â rhyddid bywyd y paith, ac yn rhannu'r angerdd yma - a thechnegau goroesi - a wnaeth Dyffryn Chubut nid yn unig yn lle i fyw, ond yn gartref.
Dylanwad yr Ariannin
Mae cymaint mwy i'r Wladfa na'r Mimosa.
Roedd y wladfa Gymreig yn rhan o don o allfudo byd-eang a groesodd Gefnfor yr Iwerydd i'r gogledd ac i'r de, gan fabwysiadu strategaeth gwrth-wladychu, a oedd, yn rhyfedd, o ganlyniad i wladychiad yn y lle cyntaf. Ond cafodd hefyd ei siapio gan wleidyddiaeth Patagonia.
Bu'r Wladfa o gymorth i lywodraeth yr Ariannin drwy wladychu bröydd Indiaidd, tra denodd y brodorion eu hunain y Cymry i'w rhwydweithiau economaidd a chymdeithasol, a rhannu gyda nhw eu ffordd o edrych ar y byd.
Mae yna fwy nag un stori yn unig i'w ddweud am y Wladfa, ac efallai mai nawr yw'r amser i edrych drachefn ar ei ystyr o ran hunaniaeth Gymreig heddiw.
Am fwy o erthyglau nodwedd ar y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia, ewch i dudalen arbennig CymruFyw.