Ffrae Llafur am ad-drefnu cynghorau lleol
- Cyhoeddwyd
Mae rhai o gynghorwyr blaenllaw'r blaid Lafur wedi gofyn i weinidogion newid cynlluniau i leihau'r nifer o gynghorau yng Nghymru.
Fe ddaeth y cais mewn cyfarfod gyda Phrif Weinidog Cymru Carwyn Jones, a'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Leighton Andrews.
Gallai map newydd llywodraeth leol gael ei gyhoeddi mor gynnar â'r wythnos nesaf.
Mae sawl ffynonell o nifer o gynghorau Cymru wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod wedi gofyn i'r newidiadau i'r map gael eu canslo, a dywedodd rhai y gallai'r ffrae arwain i rai cynghorwyr beidio ymgyrchu dros y blaid Lafur ar gyfer etholiadau'r Cynulliad yn 2016.
Y llynedd, fe wnaeth gomisiynydd awgrymu lleihau'r nifer o gynghorau o 22 i thua hanner hynny - ond mae honiadau y gallai Llywodraeth Cymru leihau'r niferoedd eto.
'Cydweithio, nid uno'
Mae nifer o'r cynghorwyr oedd yn bresennol yn y cyfarfod ym Mae Caerdydd ddydd Mercher eisiau gweld mwy o bwyslais ar gynghorau yn gweithio gyda'i gilydd, yn hytrach na gorfodi cynghorau i uno.
Ond dywedodd ffynhonnell o Llywodraeth Cymru wrth BBC Cymru bod ymddygiad y cynghorwyr wedi cryfhau ei benderfyniad i barhau gyda'r cynllun i uno cynghorau.
Dywedodd ffynhonnell Llafur: "Dyw hi ddim yn rhy hwyr i achub y sefyllfa."
Yn ôl cynghorwr Llafur arall: "Mae hi yn amser anghywir ar gyfer map newydd - dylen ni fod yn canolbwyntio ar wasanaethau.
"Sut allwn ni gael un llygad ar leihau cyllideb a'r llall ar ad-drefniant?"
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru wrthod gwneud sylw.
Dywedodd llefarydd ar eu rhan y bydd map newydd cynghorau yn cael ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf.