Cofio cysylltiadau Môn a Waterloo
- Cyhoeddwyd
200 mlynedd ers Brwydr Waterloo, mae Ynys Môn yn cofio cysylltiadau'r ardal â'r digwyddiad hanesyddol.
Fe arweiniodd Henry William Paget - Marcwis cyntaf Sir Fôn - farchlu'r Cynghreiriad i mewn i frwydr enbyd Waterloo ochr yn ochr â Dug Wellington yn 1815.
Ym Mhlas Newydd ger Llanfairpwll, mae 'na ddawns yn cael ei chynnal nos Sadwrn i geisio ail-greu dawns hanesyddol y Dduges Richmond.
Dywedodd Barbara Stanley, Rheolwr Profiad Ymwelwr ym Mhlas Newydd:
"Mae hi'n fraint cael y cyfle i goffáu'r frwydr yma a'r cysylltiadau gyda Phlas Newydd ac Ynys Môn. Cafodd y teitl Marcwis Sir Fôn ei greu a'i roi i Henry Paget oherwydd ymdrechion arwrol yn Waterloo."
Cafodd dawns y Dduges Richmond ei chynnal yn wreiddiol mis Mehefin 1815 ym Mrwsel. Roedd yn nodweddiadol oherwydd bod pob un o gadfridogion uchaf byddin Wellington yno, namyn tri.
Min nos y 200 mlwyddiant ar 18 Mehefin, mae'r plas ar agor gyda'r hwyr.
Yn ogystal, mae 'na drugareddau o'r cyfnod, yn cynnwys ysbienddrych Napoleon a gafwyd hyd iddo yn seler y plas yn cael eu harddangos yn amgueddfa Plas Newydd.
Mae'r Anglesey leg hefyd yn rhan o'r arddangosfa - y goes brosthetig gymalog cyntaf yn y byd a roddwyd i'r Marcwis ar ôl iddo golli ei goes ei hun yn y frwydr.