Camerâu cyflymder M4: 7,000 wedi eu dal yn goryrru

  • Cyhoeddwyd
M4 Port Talbot
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd 6,964 o droseddau eu recordio ar yr M4 ger Port Talbot rhwng 1 Ionawr a 3 Mehefin

Mae bron i 7,000 o yrwyr wedi cael eu dal yn goryrru ar yr M4 ger Port Talbot ers i system camerau cyfartaledd cyflymder gael eu cyflwyno ym mis Ionawr.

Mae ffigyrau gafodd eu rhyddhau i raglen Jason Mohammad ar BBC Radio Wales yn dangos bod dros 2,000 o droseddau wedi eu cofnodi ym mis Chwefror yn unig, gyda modurwyr yn cael eu cosbi gyda chymysgedd o ddirwyon, achosion llys a chyrsiau ymwybyddiaeth cyflymder.

Fe gafodd 6,964 o droseddau eu recordio ar yr M4 ger Port Talbot rhwng 1 Ionawr a 3 Mehefin, ond roedd 4,500 o'r rhain wedi eu dal erbyn canol mis Mawrth.

Awgrymai hyn bod gyrwyr wedi talu dros £500,000 mewn dirwyon yn ystod y chwe mis diwethaf.

Mae'r camerâu yn cael eu rheoli gan GoSafe - Partneriaeth Lleihau Damweiniau Ffordd Cymru.

'Nid am arian'

Dywedodd reolwr GoSafe Chris Hume wrth y rhaglen nad cynllun i wneud arian yw'r camerâu cyflymder.

"Mae'r arian yn mynd i Lywodraeth y DU, nid i ni," meddai.

"Mae'r nifer o droseddau ar tua 50 y dydd ar y funud, Mae hynny'n ostyngiad enfawr o ddechrau'r flwyddyn pan oedd dros 600. Ac mae 50 y dydd yn gyfran fechan iawn o'r 75,000 o gerbydau sy'n defnyddio'r ffordd pob dydd."

Ond dydy Claire Armstrong o Safe Speed, sy'n ymgyrchu yn erbyn y defnydd o gamerâu cyflymder, ddim yn meddwl bod y camerâu wedi cael eu gosod i wella diogelwch y ffordd.

"Does gan gamerâu ddim i'w wneud â diogelwch," meddai. "Dydi camerâu byth am rwystro damweiniau. Achosi damweiniau maen nhw."