Darganfod fersiwn goll o anthem y Wladfa

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Craig Duggan sy'n adrodd hanes "Mae Patagonia yn annwyl i mi"

Mae fersiwn goll o anthem genedlaethol Cymru gafodd ei hail-ysgrifennu ar gyfer y rhai wnaeth y daith i'r Wladfa ym Mhatagonia 150 mlynedd yn ôl wedi cael ei darganfod.

Fe gafodd ei darganfod mewn ffeiliau am y Wladfa yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

Dywedodd y dyn oedd yn gyfrifol am ei ddarganfod, Jason Evans, bod haneswyr wedi dweud wrtho nad oedden nhw yn ymwybodol ohono, ond bod mwy ymchwil yn cael ei wneud.

Fe wnaeth Mr Evans ei darganfod mewn llyfr yn dyddio 'nôl i 1875 oedd yn trafod sefydlu'r Wladfa - wrth baratoi arddangosfa i nodi 150 mlynedd ers y daith.

Dywedodd: "Dyma rywbeth sydd heb gael ei ganu am 100 mlynedd."