Gwasanaeth awyr rhwng Caerdydd a Norwich yn dod i ben

  • Cyhoeddwyd
Maes Awyr Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Maes Awyr Caerdydd ei fod wedi'i siomi gan y penderfyniad i ganslo'r llwybr

Mae gwasanaeth awyr rhwng Caerdydd a Norwich wedi dod i ben ddeufis yn unig wedi iddo gael ei lansio.

Fe wnaeth cwmni LinksAir ddechrau'r gwasanaeth o faes awyr y brifddinas ym mis Ebrill, gyda'r gobaith o ddenu teithwyr busnes.

Ond mae'r cwmni wedi dweud bod y llwybr yn "annhebygol o greu elw yn y tymor byr" ac y byddai unrhyw un sydd wedi archebu tocynnau i deithio ar y gwasanaeth yn cael eu harian yn ôl.

Dywedodd Maes Awyr Caerdydd ei fod wedi'i siomi gan y penderfyniad.

Mae LinksAir yn cynnal gwasanaeth awyr dyddiol rhwng Ynys Môn a Chaerdydd, ac fe gafodd y llwybr i Norwich ei lansio oherwydd nad oedd yr awyren yn cael ei defnyddio yn ystod y dydd.

Mae'r cwmni wedi cadarnhau na fydd y penderfyniad yn cael effaith ar yr awyrennau rhwng Y Fali a Chaerdydd.

Ffynhonnell y llun, LinksAir
Disgrifiad o’r llun,

Mae LinksAir yn cynnal gwasanaeth awyr dyddiol rhwng Ynys Môn a Chaerdydd

Dywedodd rheolwr-gyfarwyddwr Maes Awyr Caerdydd, Debra Barber: "Roedd penderfyniad LinksAir i ddod a gwasanaeth Caerdydd-Norwich i ben yn siomedig iawn.

"Roedden ni'n credu bod y gwasanaeth yn gwella i gydfynd â disgwyliadau wrth i ymwybyddiaeth gynyddu.

"Mae gwasanaeth Ynys Môn yn parhau i berfformio'n llwyddiannus ac mae'n parhau i fod yn gyswllt pwysig i deithwyr busnes a hamdden."