Atgofion: Holi J. Elwyn Hughes ar ddiwedd cyfnod

  • Cyhoeddwyd
Dr J. Elwyn HughesFfynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Dr J. Elwyn Hughes wedi bod yn golygu Cyfansoddiadau a Beirniadaethau'r Eisteddfod ers 1985

Ar ôl 30 mlynedd, daeth cyhoeddiad fis diwetha' mai eleni fydd y flwyddyn ola' i'r Dr J. Elwyn Hughes olygu Cyfansoddiadau a Beirniadaethau'r Eisteddfod Genedlaethol. Mewn sesiwn yn y Babell Lên fore Sul, bu'n hel atgofion am ei gyfnod fel golygydd. Cyn hynny, Cymru Fyw fu'n ei holi adeg carreg filltir bwysig.

Sut deimladau sydd gennych wrth roi'r gorau i olygu'r cyfansoddiadau a beirniadaethau ar ôl cymaint o flynyddoedd?

Digon cymysg, mewn gwirionedd. Does 'na ddim amheuaeth na fydda i'n colli rhai o'r profiadau gwerthfawr a enillais, ac a fwynheais, yn ystod y 30 mlynedd y bûm â chysylltiad â chyfrol y Cyfansoddiadau a Beirniadaethau. Ond 'cholla i mo'r wythnosau o garchar blynyddol y tu ôl i farrau caeth cyfnod y golygu.

Sut wnaethoch chi ddechrau ar y gwaith?

Trwy wahoddiad gan Emyr Jenkins, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod ar y pryd, i olygu cyfrol Eisteddfod y Rhyl ym 1985. Dw i'n credu fy mod wedi meddwl mai dyna'r unig gyfrol yr oeddwn i fod i'w golygu ond buan iawn y sylweddolais fy mod yn olynu Tom Bassett yn olygydd y cyfrolau pan gynhelid yr Ŵyl yn y gogledd. Bûm yn gwneud hynny tan 1999. Rhoddodd golygydd cyfrolau'r de y gorau i'r gwaith ar ôl 1998 a chytunais i lenwi'r bwlch a golygu cyfrol 2000. Ond drwy berswâd Elfed Roberts, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, deuthum wedi hynny'n olygydd pob cyfrol, gogledd a de.

Beth ydych chi wedi ei fwynhau fwya' am y gwaith?

Mi fydda i'n sicr o golli'r berthynas glòs a oedd rhyngof a staff Swyddfa'r Eisteddfod, a rhyngof i ac eraill hefyd, gan gynnwys nifer sylweddol o feirniaid y bûm yn eu ffonio i drafod rhyw agwedd neu'i gilydd ar eu beirniadaethau - gwneuthum laweroedd o ffrindiau newydd yn sgil hynny (ac ambell elyn hefyd, bid siŵr). Wedi dweud hynny, fydda i ddim yn colli'r gwaith golygu dwys o fewn ffiniau amser tynn - a'r holl oblygiadau niferus ynglŷn â'r gorchwyl hwnnw. Ac yn sicr, fydd gen i'r un gronyn o hiraeth ar ôl y beirniaid digalendr a digydwybod sy'n cael gwefr o herio'r dyddiad cau a phleser gwyrdroëdig yn drysu a difetha trefn y golygu.

John Elwyn Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Mae John Elwyn yn awdur toreithiog ac yn arbenigwr ar hanes Caradog Prichard

Oes unrhyw flwyddyn / brofiad yn aros yn y cof fwy nag eraill?

Mae'n siŵr gen i fod sawl blwyddyn wedi bod yn wahanol am ryw reswm neu'i gilydd ond 'alla i ond dwyn i gof un achlysur arbennig pan fu bron i broblemau cyfrifiadurol achosi i'r gyfrol beidio â chyrraedd y wasg mewn pryd ar gyfer ei chyhoeddi erbyn wythnos yr Eisteddfod yn 2012. Cefais fraw aruthrol ar y pryd ond trwy gymorth cyfaill o gyfrifiadurwr, llwyddais i osgoi bod yn ystadegyn mewn llyfrau hanes - ond cael a chael fu hi!

Sut mae casglu'r deunydd at ei gilydd, a sut mae'r gwaith wedi newid dros y blynyddoedd?

Digon effeithiol a didrafferth, at ei gilydd - ac mae lle i ddiolch i Lois Mars Jones yn Swyddfa'r Eisteddfod am ei gwaith trylwyr a dibynadwy bob amser yn ystod y cyfnod o dros 20 mlynedd y buom yn cydweithio. Hi fu'n gyfrifol am gydlynu'r holl broses o gofrestru'r beirniadaethau a'r cyfansoddiadau pan gyrhaeddent cyn eu hanfon wedyn ata i, ynghyd â rhestr o ffugenwau a theitlau cyfansoddiadau pob cystadleuaeth y byddai'n rhaid eu golygu.

Yn ystod fy nghyfnod i'n olygydd, bu nifer o newidiadau yn hanes cynhyrchu'r gyfrol. Dw i'n cofio'r adeg pan gyrhaeddai'r deunyddiau i gyd drwy'r post a hynny mewn llawysgrifen a amrywiai o'r gwych i'r gwachul ac i'r agos-annarllenadwy ond daeth sawl tro ar fyd ers hynny. Daeth technoleg i'n byd a chyflwynwyd beirniadaethau ar ddisg, ac erbyn heddiw drwy e-bost. Unwaith y cyrhaeddant Swyddfa'r Eisteddfod, cânt eu cofrestru a'u hanfon ataf i i'w golygu.

Beth yw hanes y cyfansoddiadau a'r beirniadaethau?

Mae 'na ryw ffurf ar gyfansoddiadau a beirniadaethau wedi cael eu cyhoeddi ers 1860, pan gynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol go iawn gyntaf yn Ninbych, ac ymddangosodd cyfrolau trwchus a chyfansawdd yn yr 1880 a'r '90au. Ym 1937-38 y dechreuwyd cyhoeddi'r gwaith ar ffurf debyg i'r hyn sydd gynnon ni heddiw.

Mae rhai, efallai, wedi bod yn casglu'r holl gyhoeddiadau dros y blynyddoedd - oes rhai ohonynt yn fwy prin/gwerthfawr na'i gilydd tybed?

Fel sawl casglwr arall, mae gen i gasgliad eithaf cynhwysfawr, er nad yn ddi-fwlch, ond mae rhediad di-dor gen i o 1937 ymlaen. Gwn fod rhai o'r cyfrolau a gyhoeddwyd ddiwedd y 19eg ganrif yn eithaf prin erbyn hyn ond wn i ddim am gyfrolau'r ganrif ddiwethaf.

Casgliad Dr J. Elwyn Hughes o gyfrolau Cyfansoddiadau a Beirniadaethau'r EisteddfodFfynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Dr J. Elwyn Hughes gasgliad eang o gyfrolau Cyfansoddiadau a Beirniadaethau'r Eisteddfod

W. Gwyn Lewis fydd yn eich olynu fel golygydd, oes gennych chi unrhyw gyngor iddo?

Cael trefn a chynllun ar gyfer yr holl orchwyl, darllen y cyfan sawl gwaith, anelu at roi'r beirniadaethau a'r cyfansoddiadau yn y drefn y byddan nhw'n ymddangos yn y gyfrol erbyn diwedd y drydedd wythnos ym Mehefin, cadw cysylltiad agos â Swyddfa'r Eisteddfod drwy gydol y broses a sefydlu perthynas a dealltwriaeth ymarferol efo'r cysodydd yn y wasg. Dyna ambell gyngor allweddol ond dw i'n ymwybodol iawn y bydd y sawl fydd yn ymgymryd â'r golygu yn dymuno dilyn ei drywydd a'i syniadau ei hun.

Mwy o newyddion a straeon o Eisteddfod 2015.