Irfon Williams: Gobaith i glaf canser

  • Cyhoeddwyd
Irfon Williams

Mae claf canser o Fangor, symudodd ei driniaeth i Loegr i gael cyffur nad oedd ar gael yng Nghymru, wedi clywed y gallai gael gwellhad erbyn yr hydref.

Yr wythnos ddiwethaf, cafodd Irfon Williams ganlyniadau profion oedd yn dangos ei fod wedi ymateb yn dda i gyffur Cetuximab a bod tiwmorau yn ei gorff wedi lleihau mewn maint.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a Llywodraeth Cymru nad oedd modd iddyn nhw wneud sylw ar achosion unigol, ond dywedodd y llywodraeth bod system mewn grym "i sicrhau bod cleifion yn cael triniaeth effeithiol i bob salwch".

Disgrifiad,

Dylan Jones fu'n holi Irfon Williams ar ei raglen ar BBC Radio Cymru ddydd Llun

Tiwmorau wedi lleihau

Mae Mr Williams yn dioddef o ganser y coluddyn sydd wedi lledaenu i'w iau.

Ddechrau Mehefin, cafodd wybod bod y tiwmorau yn ei iau wedi lleihau'n sylweddol, gyda maint un ohonyn nhw wedi lleihau o 8cm i 3.5cm.

Fe gafodd ei drin â chyffur Cetuximab - sydd ddim ar gael ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru - ond sydd ar gael yn Lloegr fel rhan o'r Gronfa Cyffuriau Canser yno.

Bu'n rhaid iddo symud ei driniaeth i Ysbyty Christie ym Manceinion er mwyn cael y cyffur, a bu'n teithio yno bob wythnos o'i gartref ym Mangor.

Yr wythnos ddiwetha' cafodd wybod bod llawfeddygon yn hapus gyda'i ymateb i'r cyffur ac y byddai'n cael llawdriniaeth i dynnu'r tiwmorau ym mis Medi.

'Posibilrwydd o wella'n gyfangwbl'

Yn siarad ar raglen Dylan Jones ar BBC Radio Cymru ddydd Llun, dywedodd Mr Williams: "Dwi lawr i gael llawdriniaeth ar y trydydd o Fedi. Dwi wedi gweld yr ymgynghorwyr yn Lerpwl a Manceinion ac mae nhw'n hapus hefo sut mae pethau'n edrych felly mae'n debygol y byddai'n mynd i mewn ym mis Medi, sydd yn andros o newyddion da.

"Mae gen i saith tiwmor yn yr iau ac mae gen i diwmor yn y coluddyn yn dal i fod. Mae hwnnw'n iawn a tydi o ddim yn creu problem i fi o gwbl ac erbyn hyn tydi'r rhai yn fy iau ddim yn creu trafferth i mi chwaith.

"Dwi'n teimlo'n iach iawn. Be mae hyn yn ei olygu ydi'r posibilrwydd y medra i wella'n gyfangwbl o'r canser. Doedd hynny ddim yn rhywbeth oeddwn i'n ei ddisgwyl ar un amser ond erbyn hyn mae hwnnw'n bosibilrwydd cryf iawn."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Irfon driniaeth yn Ysbyty Christie ym Manceinion ar ôl symud ar draws y ffin

'Trin bob salwch'

Dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a Llywodraeth Cymru nad oedd modd iddyn nhw wneud sylw ar achosion unigol.

Ond dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth: "Yng Nghymru, mae system mewn grym sy'n sicrhau bod cleifion yn cael triniaeth effeithiol i bob salwch - nid canser yn unig.

"Mae cleifion canser yng Nghymru yn derbyn cyffuriau sydd wedi eu cymeradwyo gan NICE yn gynt na'r rheiny yn Lloegr.

"Mae'r Gronfa Cyffuriau Canser yn Lloegr yn ariannu cyffuriau sydd heb eu cymeradwyo sy'n rhoi ychydig iawn neu dim budd i gleifion. Does dim cynlluniau i ddechrau cronfa cyffuriau canser yng Nghymru."

'Wedi gweithio'

Wrth ymateb i sylw'r llywodraeth ar raglen Dylan Jones, dywedodd Irfon Williams: "Mi roedd yr arbennigwyr yn Lloegr i gyd yn dweud mai Cetuximab a chemotherapi oedd y ffordd orau i fynd ac roeddwn i'n gobeithio y byddai fo'n gweithio.

"Doedda nhw ddim yn sicr y byddai fo'n dilyn i mi gael llawdriniaeth - 15% oedd y siawns o hynny. Ond mi gymerais i'r 15% yna - mi faswn i wedi cymryd 1%, ond mae wedi gweithio a dwi wrth fy modd.

"Dwi ddim yn hollol anghytuno hefo rhai o'r pethau mae nhw'n ei ddweud, er enghraifft pam ddylie canser gael blaenoriaeth dros unrhyw gyflwr arall? Dwi ddim yn meddwl y dylie hynna ddigwydd.

"Be sy'n cael fi bennaf ydi bod nhw (llywodraeth Cymru) yn dweud fod y driniaeth yma'n cael dim effaith - neu dim llawer o effaith - ond yn fy enghraifft i yn amlwg mae wedi gweithio.

"Felly dwi ddim yn mynd i ddadlau hefo neb am hynny a dwi ddim yn mynd i beidio gwrando ar yr arbennigwyr yn Lloegr pan oeddan nhw'n dweud wrtha i bod na 15% o gyfle. Pan da chi'n byw hefo canser mae gobaith yn andros o beth pwysig ac unrhyw amser da chi'n cael gobaith mae'n helpu i'ch cadw yn bositif".