Adroddiad yn galw am fwy o gymorth i ofalwyr ifanc
- Cyhoeddwyd

Mae dros 22,500 o ofalwyr di-dâl rhwng 14-25 oed yng Nghymru yn cefnogi ffrind neu deulu
Mae gofalwyr ifanc bedair gwaith yn fwy tebygol i dynnu allan o goleg neu brifysgol na'u cyd-fyfyrwyr, yn ôl adroddiad.
Mae dros 22,500 o ofalwyr di-dâl rhwng 14-25 oed yng Nghymru yn cefnogi ffrind neu deulu.
Bydd adroddiad Ymddiriedaeth Gofalwyr Cymru yn cael ei lansio yn y Cynulliad ddydd Iau, ac mae'n rhoi awgrymiadau am beth allai gael ei wneud i roi gwell gefnogaeth i ofalwyr ifanc.
Dywedodd cyfarwyddwr yr ymddiriedaeth Simon Hatch: "Mae hi'n amser i wrando ar leisiau gofalwyr ifanc.
"Gadael yr ysgol, mynd i goleg neu brifysgol, dechrau gweithio - mae'r rhain yn newidiadau anodd i bob person ifanc.
"Ond i ofalwyr ifanc, pan does 'na ddim cefnogaeth, gallan nhw fod yn rhwystrau anorchfygol."