Cyfansoddiadau: Diwedd cyfnod i John Elwyn Hughes
- Cyhoeddwyd

Mae'r Dr J. Elwyn Hughes wedi bod yn golygu Cyfansoddiadau a Beirniadaethau'r Eisteddfod ers 1985
Wedi cyfnod o 30 mlynedd wrth y llyw, eleni fydd y tro olaf i John Elwyn Hughes olygu cyfrol Cyfansoddiadau a Beirniadaethau'r Eisteddfod Genedlaethol.
Ers cychwyn ar y gwaith yn Eisteddfod Rhyl, 1985, mae'r awdur a'r academydd - sy'n wreiddiol o Ddyffryn Ogwen ond sy'n byw ym Methel ger Caernarfon erbyn hyn - wedi casglu a pharatoi beirniadaethau a gwaith y buddugwyr ar gyfer y gyfrol a gyhoeddir brynhawn Gwener olaf yr Eisteddfod bob blwyddyn.
Rhwng 1985 a 1999, gorchwyl bob yn ail flwyddyn oedd golygu'r gyfrol ond aeth yn dasg flynyddol o 2000 ymlaen.
Mae John Elwyn yn awdur toreithiog ac yn arbenigwr ar hanes Caradog Prichard, ei gefndir, ei ardal a'i waith.
Er iddo symud o Ddyffryn Ogwen, mae dylanwad y dyffryn yn parhau'n rhan bwysig o'i fywyd, ac yn 2009, dyfarnwyd iddo ddoethuriaeth gan Brifysgol Bangor am ei ddwy gyfrol Byd a Bywyd Caradog Prichard a Byd Go Iawn Un Nos Ola Leuad.
'Ffrindiau a gelynion'
Yn ogystal â'i waith ar Caradog Prichard, mae hefyd yn arbenigwr ar ramadeg y Gymraeg ac wedi ysgrifennu amryw o gyfrolau ar y pwnc.
Yn ôl Mr Hughes, mae wedi gwneud "nifer o ffrindiau yn ogystal â gelynion wrth olygu'r cyfansoddiadau."
Eglurodd ei fod wedi mwynhau'r gwaith ond fod y "caethiwed bob mis Mai a Mehefin" yn golygu na fedr wneud unrhyw beth arall yn ystod y cyfnod hwnnw.
Mae'r cyfrolau oddeutu 100,000 o eiriau yn flynyddol erbyn hyn.
Mae gan Mr Hughes nifer o atgofion dros y blynyddoedd, rhai yn felys rhai yn chwerw.

Mae John Elwyn yn awdur toreithiog ac yn arbenigwr ar hanes Caradog Prichard
Colli gwaith
Dywedodd wrth Dylan Iorwerth ar raglen Dan yr Wyneb ar BBC Radio Cymru ei fod yn cofio un tro colli "pob nodyn o waith oddi ar y cyfrifiadur oherwydd haciwr", ond fod ffrind iddo wedi llwyddo i gael y gwaith yn ôl.
Pan ofynnodd Dylan Iorwerth iddo am safonau'r iaith, dywedodd: "Yn eironig iawn fydd 'na ambell feirniad yn gwawdio rhai o'r cystadleuwyr am iaith wallus a blêr a di-ofal, heb fod wedi edrych dros eu gwaith cyn ei anfon i'r gystadleuaeth. Ond duwcs, 'doeddwn i'n cael hynny mewn beirniadaethau'n de?
"Dim pawb cofiwch. Ond roedd 'na rai oedd yn 'sgwennu pethau nad oedden nhw yn Gymraeg Syr John Morris Jones nac yn William Morgan ynde.
"Dwi'n credu bod rhaid gwarchod safon - mae'n rhaid peidio mynd i fratiaith, ac mae'n rhaid peidio defnyddio rhyw ffurfiau annerbyniol i'r rhan fwya' ohonon ni.
"Dwi wedi golygu erbyn rŵan 23 cyfrol, a 'dwi erioed wedi cael neb yn cwyno am safon iaith y cyfansoddiadau."
Teyrnged
Dywedodd Trefnydd yr Eisteddfod, Elen Elis, "Hoffwn dalu teyrnged i Elwyn Hughes am ei gyfraniad i'r Eisteddfod dros gyfnod o 30 mlynedd. Nid ar chwarae bach mae golygu cyfrol fel y Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, a hynny heb lawer o amser i gwblhau'r gwaith.
"Er mai dim ond am gyfnod byr o'i gyfnod y bûm i'n cydweithio gydag Elwyn, mae'i ymroddiad, ei lygad craff a'i waith manwl wedi bod yn gaffaeliad pendant i ni, ac rydym yn ddiolchgar iawn iddo am ei holl waith ac yn dymuno pob hapusrwydd iddo yn ei ymddeoliad."
Yn gynharach eleni penodwyd W. Gwyn Lewis yn olygydd newydd ar y Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, ac ar ôl cyfnod yn cysgodi Elwyn Hughes eleni, fe fydd yn mynd ati i ymgymryd â'r gwaith ar ei ben ei hun o'r flwyddyn nesaf ymlaen.
Bu Gwyn Lewis yn weithgar gyda'r Eisteddfod Genedlaethol am flynyddoedd lawer, ac mae'n fwyaf adnabyddus fel Trefnydd Arholiadau Gorsedd y Beirdd ar hyn o bryd.
Bydd cyfle i glywed rhai o atgofion J Elwyn Hughes am ei gyfnod fel golygydd y Cyfansoddiadau a Beirniadaethau mewn sesiwn yn y Babell Lên, ddydd Sul 2 Awst am 11.45.