Gwerthu tir: Trethdalwyr ar eu colled o £15m
- Cyhoeddwyd
Mae adroddiad i'r arwerthiant mwyaf o dir cyhoeddus yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf wedi darganfod y dylai fod wedi creu o leiaf £15 miliwn yn fwy i'r trethdalwr.
Fe gafodd gasgliad o safleoedd eu gwerthu fel un portffolio gan Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio, neu RIFW, am £21m dair blynedd yn ôl.
Fe ddywedodd y Prisiwr Rhanbarthol mewn adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru y gallai'r tir fod wedi cael pris o £36m pe bai'r safleoedd wedi eu gwerthu ar wahân a'u marchnata yn fwy eang.
Dywedodd archwilwyr hefyd bod diffygion ym mhroses y gwerthiant a gwendidau yn y cyngor i fwrdd RIFW, yn benodol gan yr ymgynghorwyr Lambert Smith Hampton.
Dywedwyd hefyd bod rhai partïon oedd yn gysylltiedig â'r cytundeb â pherthnasau gyda'r prynwr a'r gwerthwr fyddai wedi gallu codi problemau gwrthdaro buddiannau.
'Diffygion'
Fe wnaeth RIFW - rhan o Lywodraeth Cymru - werthu'r tir i gwmni o Guernsey o'r enw South Wales Land Developments. Roedd yr elw wedi'i ddylunio i gael ei ddefnyddio i fuddsoddi mewn cynlluniau adfywio.
Dywedodd yr adroddiad: "Oherwydd diffygion yn y ffordd y cafodd RIFW ei sefydlu, yn y dewis o asedau ac ym mhroses y gwerthiant, ni all RIFW na Llywodraeth Cymru ddangos bod gwerthu'r portffolio wedi arwain at werth am arian."
Roedd y safleoedd yn amrywio'n fawr, o hen dir diwydiannol i fwy na 100 erw o dir fferm gwerthfawr oedd wedi ei glustnodi ar gyfer tai ger Caerdydd.
Gwerthwyd y safleoedd ar amser ble roedd gwerth nifer ohonynt yn tyfu, wrth i gynlluniau adrannau cynllunio llywodraeth leol newid i alluogi mwy o dai.
Y safleoedd dan sylw
Parc Imperial, Casnewydd
Llysfaen, Caerdydd
Parc Busnes Llantrisant
Fferm Tŷ Uchaf, Y Rhws
Fferm Goere Uchaf, Bangor
Llanfairpwll, Ynys Môn
Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam
Fferm Tŷ Draw, Y Pîl
Safle bwyd Mayhew, Aberdâr
Heol Wonastow, Sir Fynwy
Ffordd Dwyrain Tywyn, Tywyn
Pen y Bryn, Llanelwedd
Heol St George, Abergele
Cyffordd Llandudno
Ystâd Ddiwydiannol Bracla, Pen-y-bont ar Ogwr
Ymateb
Dywedodd Darren Millar AC, sy'n Gadeirydd ar Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad: "Yn bendant dyma'r colled posibl mwyaf i'r trethdalwr rydw i wedi ei weld fel cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ac rydw i wedi bod yn ei gadeirio am nifer o flynyddoedd."
Fe ddywedodd llefarydd ar ran llywodraeth Cymru: "Mae'n rhaid ystyried prisiad y Prisiwr Rhanbarthol hefyd, ynghyd â phrisiadau anghyson yn eu hadroddiad a'r amgylchiadau oedd yn wynebu'r gronfa yn 2012, pan oedd rhagolygon economaidd yn ansicr iawn."
Dywedodd llefarydd Lambert Smith Hampton: "Fe wnaethon ni ymddwyn yn ddidwyll ac yn niddordebau RIFW pob amser.
"Fe wnaethon ni sicrhau pris da am werthiant yr asedau, yn cyd-fynd gyda'r briff gafodd ei osod."
Week in Week Out: The Big Welsh Land Scandal? BBC One Wales, dydd Mercher, 15 Gorffennafam 22:35
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mehefin 2014