Asbestos ysgolion: Cyfrifoldeb pwy?

  • Cyhoeddwyd
asbestos

Mae ymgyrchwyr yn galw ar i Lywodraeth Cymru gymryd rhagor o gyfrifoldeb am asbestos yn ysgolion Cymru.

Mi oedd asbestos yn cael ei ddefnyddio yn y diwydiant adeiladu yn y 1960au a 70au, ond cafodd ei wahardd yn y DU yn 1999 wedi iddo gael ei gysylltu â nifer o anhwylderau ar yr ysgyfaint, yn cynnwys mesothelioma.

Fe ddywedodd Cenric Clement-Evans - cyfreithiwr ymgyrch 'Right to Know: Asbestos in Schools Wales' - wrth BBC Cymru ei fod am weld Llywodraeth Cymru yn sefydlu grŵp ymgynghori a chreu polisi cenedlaethol.

Yn Lloegr, fe gyhoeddodd y llywodraeth bolisi tebyg ym mis Mawrth eleni, ond mae 'na ansicrwydd ynglŷn â phwy sy'n gyfrifol yng Nghymru.

Bu gohebydd addysg BBC Cymru, Arwyn Jones i gael cip ar ysgol sy'n cael gwared ag asbestos dros yr haf

Disgrifiad,

Adroddiad Arwyn Jones

Ym Mhrydain rhwng 2003 a 2012, bu farw 224 o bobl - oedd wedi rhestru eu gyrfa fel 'athro' - o achos mesothelioma.

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae mynd i'r afael ag asbestos mewn ysgolion yn fater o iechyd a diogelwch - maes sydd heb ei ddatganoli.

Ond mae Llywodraeth y DU yn mynnu nad ydy hynny'n gywir.

Mae ymgyrchwyr wedi dweud wrth BBC Cymru nad oes ots ganddyn nhw pwy sy'n gyfrifol, ond ei fod yn faes rhy bwysig i'w adael fel y mae.