Calais: Cwmni cludo`n stopio mynd dramor
- Cyhoeddwyd
Mae perchennog cwmni cludo o Sir Benfro wedi dweud eu bod yn "flin ac yn rhwystredig" ar ôl penderfynu dod â'u gwaith tramor i ben oherwydd ymosodiadau ar eu lorïau wrth groesi'r Sianel.
Dywedodd Peter Harding fod ymfudwyr wedi torri i mewn i un blwch ar gefn lori oedd yn cynnwys deunydd fferyllol a cholur, gan olygu bod y llwyth wedyn yn ddi-werth.
Dywedodd wrth BBC Cymru: "Mae'n rhaid cael terfyn ar hyn.
"Rwyf yn ddig ac yn rhwystredig iawn. Mae hyn wedi mynd ymlaen yn rhy hir. Dylid ei datrys."
'Gwneud dŵr'
Ychwanegodd: "Nid yw pobl yn sylweddoli fod ymfudwyr yn cuddio ar ein cerbydau ac yn gwneud dŵr ar nwyddau a chyflenwadau bwyd.
"Mae'n hen bryd i lywodraethau ddatrys hyn, neu mi fydd yna anarchiaeth yn y siopau.
"Rydyn ni wedi wynebu hyn am y naw mlynedd ddiwethaf; yn ddiweddar, yn ystod y chwe mis diwethaf, mae'r sefyllfa wedi mynd yn llawer gwaeth.
"Mae pawb yn colli arian, does neb yn gwneud unrhyw elw. Efallai y byddai'n well inni roi'r gorau iddi."