Cymru'n nawfed yn y byd ar restr FIFA

  • Cyhoeddwyd
Chris ColemanFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Chris Coleman reswm i wenu

Mae tîm pêl-droed Cymru wedi codi i'r nawfed safle ar restr detholion y byd gan FIFA - eu safle uchaf erioed - heb chwarae gêm dros y mis diwethaf.

Oherwydd y modd y mae safleoedd yn cael eu mesur, mae canlyniadau'r tair blynedd diwethaf yn cyfri i bwyntiau bob gwlad - deellir bod Cymru wedi 'colli' canlyniadau siomedig ddigwyddodd dair blynedd yn ôl.

Mae hynny'n golygu fod tîm Chris Coleman yn codi'n uwch na'r Iseldiroedd am y tro cyntaf erioed.

Bu'r Iseldiroedd yn rownd derfynol Cwpan y Byd deirgwaith, ac roedden nhw yn y rownd gynderfynol yng Nghwpan y Byd y llynedd.

Gan nad oes mwy o gemau rhyngwladol o bwys tan i Gymru wynebu Cyprus, fe fydd rhestr detholion arall yn cael ei chyhoeddi ar 3 Medi, ac fe gredir y gallai Cymru bryd hynny godi'n uwch na Lloegr am y tro cyntaf erioed.

Mae Chris Coleman wedi dweud yn barod nad yw'n talu gormod o sylw i'r rhestr ac mai ei flaenoriaeth ef a'r tîm yw sicrhau eu lle yn rowndiau terfynol Euro 2016 yn Ffrainc yr haf nesa.

Rhestr Detholion FIFA - 6 Awst, 2015:

  1. Ariannin - 1425 o bwyntiau

  2. Gwlad Belg - 1244

  3. Yr Almaen - 1226

  4. Colombia - 1218

  5. Brazil - 1186

  6. Portiwgal - 1177

  7. Romania - 1166

  8. Lloegr - 1157

  9. CYMRU - 1155

  10. Chile - 1124