Marwolaeth merch: Teulu`n dal i aros am atebion

  • Cyhoeddwyd
Angharad ReesFfynhonnell y llun, AGC Photography
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Angharad Rees yn farchoges brofiadol

Mae teulu merch 18 oed gafodd ei lladd mewn damwain ceffyl a thrap dair blynedd yn ôl dal eisiau atebion am pam y gwnaeth hi farw.

Roedd Angharad Rees o Abaty Nedd yn farchoges brofiadol, ac yn cymryd rhan mewn digwyddiad sy'n cael ei hadnabod fel The Marathon ym Mharc Gwledig Afan Argoed, Port Talbot.

Fe ddigwyddodd y ddamwain ar 27 Mai 2012, wrth iddi farchogaeth trap dwy olwyn oedd wedi ei harneisio i'r ceffyl. Wrth iddyn nhw droi lawr llwybr cul mi gafodd Angharad ei thaflu o'r trap. Mi darodd ei phen yn erbyn coeden a dioddefodd anafiadau angheuol.

Mae teulu Ms Rees yn dweud ei bod am weld y rhai oedd yn gyfrifol am y digwyddiad yn cael eu herlyn. Mae'r trefnwyr The British Driving Society (BDS) yn dweud mai damwain drasig oedd hi, gan nodi rheithfarn y crwner o farwolaeth ddamweiniol.

Ffynhonnell y llun, Rees family
Disgrifiad o’r llun,

Doedd Angharad Rees ddim yn gwisgo het galed

Hetiau Caled

Yn ol y BDS roedd y rhai oedd yn cymryd rhan wedi eu cynghori i wisgo hetiau caled. Mi wnaeth y cwest ddarganfod bod Ms Rees wedi penderfynu peidio gwisgo het galed. Yn ôl y crwner doedd hi ddim yn glir a fyddai gwisgo het galed wedi arwain at ganlyniad gwahanol.

Clywodd y cwest hefyd bod cael help meddygol i Ms Rees wedi profi`n anodd oherwydd y lleoliad.

Mae BBC Cymru wedi gweld adroddiad gan swyddog iechyd yr amgylchedd Cyngor Nedd Port Talbot sy'n codi cwestiynau difrifol ynglŷn â pha mor addas oedd llwybr y digwyddiad.

Ffynhonnell y llun, Peter Davies
Disgrifiad o’r llun,

Y cyfreithiwr Peter Davies

Mae Gavin Rees, tad Angharad yn dweud ei fod wedi cerdded y llwybr ar sawl achlysur. "Yn fy marn i, mae'n anghredadwy mynd a cheffyl a cherbyd i lawr yna. Dwi ddim yn dweud na fyddai'n bosib gwneud hynny pe bai chi'n farchog traws gwlad...fel mae nhw'n wneud mewn rhai achosion gyrru. Ond nid mewn digwyddiad sy'n ddiwrnod o hwyl."

Dywedodd cyfreithiwr y teulu, Peter Davies: "Mae sawl mater wedi dod i'r wyneb ers y cwest a dwi'n pendroni a fyddai'r rheithfarn wedi bod yr un peth pe bai'r wybodaeth yma wedi bod ar gael, a'r cwestiynau iawn wedi eu gofyn?"

Tra`i fod yn derbyn nad oes yna bosibilrwydd y bydd yna gwest arall, mae'n dweud bod y teulu yn dal eisiau atebion.

Mae Mr Rees yn galw ar i`r trefnwyr gael eu "rhoi mewn llys", gan ychwanegu: "Dyw hyn ddim yn mynd i leddfu`r boen a`r galar ond fe fyddai`n helpu dipyn. Y rhai oedd yn ymwneud gyda`r digwyddiad, fi`n eu beio nhw. Mae nhw`n gyfan gwbwl gyfrifol am yr hyn ddigwyddodd i fy merch."

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor eu bod yn ail-ymchwilio i`r digwyddiad, ac na allen nhw wneud sylw pellach.

Ffynhonnell y llun, Rees family
Disgrifiad o’r llun,

Angharad Rees (chwith) yn hyfforddi ar gyfer y digwyddiad ym Mhort Talbot

Cydymdeimlo'n ddwys

Mae`r British Driving Society yn dweud mai damwain drasig oedd hon, ac wedi cydymdeimlo`n ddwys gyda'r teulu.

Maen nhw hefyd yn dweud bod tua 10 arall wedi dod i lawr y llethr heb unrhyw ddigwyddiad cyn Ms Rees, a bod y rhai oedd yn cymryd rhan wedi eu rhybuddio mai trac cul oedd hwn ac i ddisgwyl tir anwastad, gwreiddiau coed, a llethrau oedd yn mynd i fyny ac i lawr.

Fe wnaeth y crwner gysylltu gyda`r BDS ar ôl y cwest yn awgrymu y dylid sicrhau gwisgo hetiau caled mewn digwyddiadau tebyg. Mae BBC Cymru yn deall, ar ol i dîm diogelwch y BDS ystyried, nad oes yna newidiadau wedi eu cyflwyno i`r rhai sydd dros 14 oed.

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi dweud wrth y teulu ddydd Gwener na fyddan nhw yn bwrw ymlaen gyda dau o'r tri chyhuddiad posib. Ond maen nhw'n dal i ystyried y trydydd.