Costau amlosgi yn cynyddu yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Amlosgfa

Mae costau amlosgi mewn rhai canolfannau sy'n berchen i gynghorau yng Nghymru wedi cynyddu o dros 50% ers 2010.

Yn dilyn cais dan y ddeddf rhyddid gwybodaeth, mae cost amlosgi oedolyn wedi cynyddu o dros draean ar gyfartaledd.

Mae'r cynnydd yn cael ei feio ar gostau offer newydd sy'n lleihau llygredd, yn ogystal ag eirch mwy.

Roedd y cynnydd mwyaf yn ardaloedd Castell Nedd Port Talbot, Rhondda Cynon Taf a Phen-y-bont.

Costau amlosgi yn 2010/11 a 2015/16:

  • Castell Nedd Port Talbot: £385 - cynnydd o 52% i £585;

  • Rhondda Cynon Taf: £420 - cynnydd o 49% i £626;

  • Pen-y-bont: £425 - cynnydd o 45% i £615.

Nid oes gan bob cyngor yng Nghymru amlosgfa dan eu rheolaeth.

Mae dros 170 o gynghorau'r DU yn rheoli o leiaf un amlosgfa. Mewn ardaloedd eraill mae amlosgfeydd dan reolaeth breifat.

Ar gyfartaledd, cost amlosgi oedolyn yn y DU yw £640.