Bale yn iach er gwaetha'r pryderon
- Cyhoeddwyd
Daeth cadarnhad fod Gareth Bale wedi gorfod cael profion ar fys bawd ei droed dde - wythnos cyn ymuno â Chymru ar gyfer dwy gêm hollbwysig yng ngemau rhagbrofol Euro 2016 yn erbyn Cyprus ac Israel.
Fe wnaeth y papur newydd Sbaeneg, Marca, dolen allanol, adrodd fod ymosodwr Real Madrid angen sgan ar ôl gêm ddi-sgôr i'r clwb yn erbyn Sporting Gijon nos Sul.
Ond er gwaetha'r pryderon i ddechrau, dangosodd Pelydr-x nad oedd Bale, 26, wedi torri unrhyw asgwrn a phenderfynodd meddygon ei fod yn holliach.
Pwy fydd yn y garfan?
Bydd rheolwr Cymru Chris Coleman yn cyhoeddi ei garfan ddydd Mercher, ond un na fydd yn eu plith fydd Joe Allen.
Mae chwaraewr canol cae 25 oed Lerpwl wedi anafu llinyn y gar, ond fyddai o ddim wedi bod ar gael yn erbyn Cyprus ar 3 Medi beth bynnag, yn dilyn cerdyn melyn yn y gêm yn erbyn Gwlad Belg fis Mehefin.
Mae 'na bosibilrwydd bychan y gallai fod ar gael i groesawu Israel i Gaerdydd dridiau'n ddiweddarach.
Dyw Joe Ledley ddim wedi chwarae hyd yma'r tymor hwn, er bod disgwyl iddo fo a'i gyd-chwaraewr gyda Crystal Palace, y gôlgeidwad Wayne Hennessey, chwarae i'w clwb yn erbyn Amwythig nos Fawrth.
'Sefyllfa anodd'
Yn ôl cyn-amddiffynwr Cymru, Danny Gabbidon, dyw absenoldeb Allen yn ddim yn newydd da i Gymru, sydd ar fin mynd drwodd i rowndiau terfynol prif gystadleuaeth am y tro cynta' ers 1958.
"Maen nhw'n gwneud lot o waith yng nghanol y cau yn torri pethau fyny a sefydlu Bale ar gyfer ymosod," meddai Gabbidon, 36, sydd wedi ennill 49 o gapiau i Gymru.
"Felly mae'r ffaith ei fod o [Allen] wedi'i anafu a Joe Ledley ddim yn chwarae'n dda, a'n amlwg Wayne Hennessey, mae'n sefyllfa anodd i Coleman."
Mae Cymru'n arwain Grŵp B o dri phwynt a byddai buddugoliaethau yn erbyn Cyprus ac Israel yn ddigon i sicrhau lle Cymru yn rowndiau terfynol Euro 2016 yn Ffrainc.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Awst 2015
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2015