Euro 2016: Chris Coleman yn cyhoeddi carfan Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae rheolwr Cymru Chris Coleman wedi cyhoeddi'r garfan ar gyfer gemau hollbwysig rowndiau rhagbrofol Euro 2016 yn erbyn Cyprus ac Israel.
Does dim lle yn y garfan i chwaraewr canol cae Lerpwl Joe Allen oherwydd anaf i linyn y gar, nac i amddiffynnwr Sunderland Adam Matthews wedi iddo gael ei anafu yn erbyn Caerwysg nos Fawrth.
Roedd pryder bod Gareth Bale wedi anafu ei droed yn erbyn Sporting Gijón dros y penwythnos, ond yn dilyn sgan, fe gadarnhawyd y byddai ar gael.
Mae'r amddiffynwyr James Collins a Ben Davies, a'r chwaraewr canol cae David Edwards yn dychwelyd i'r garfan ar ôl methu'r fuddugoliaeth yn erbyn Gwlad Belg oherwydd anafiadau.
Mae'r chwaraewr canol cae ifanc, Jordan Williams, yn y garfan am y tro cyntaf. Mae'r gŵr o Fangor, 19 oed, ar fenthyg i Swindon o Lerpwl ar hyn o bryd.
Mae Cymru'n arwain Grŵp B o dri phwynt a byddai buddugoliaethau yn erbyn Cyprus ac Israel yn ddigon i sicrhau lle yn rowndiau terfynol Euro 2016 yn Ffrainc.
Y garfan yn llawn
Gôl-geidwaid: Wayne Hennessey (Crystal Palace), Daniel Ward (Aberdeen, ar fenthyg o Lerpwl), Owain Fôn Williams (Inverness Caledonian Thistle);
Amddiffynwyr: Ashley Williams (Abertawe), James Chester (West Bromwich Albion), James Collins (West Ham United), Ben Davies (Tottenham Hotspur), Chris Gunter (Reading), Neil Taylor (Abertawe), Adam Henley (Blackburn Rovers), Ashley Richards (Fulham);
Canol-cae: Joe Ledley (Crystal Palace), Aaron Ramsey (Arsenal), Jordan Williams (Swindon Town, ar fenthyg o Lerpwl), Andy King (Caerlŷr), David Edwards (Wolverhampton Wanderers), Shaun MacDonald (Bournemouth);
Ymosodwyr: David Cotterill (Birmingham City), Hal Robson-Kanu (Reading), Tom Lawrence (Blackburn Rovers, ar fenthyg o Gaerlŷr), Gareth Bale (Real Madrid), Simon Church (Milton Keynes Dons), Sam Vokes (Burnley).
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2015
- Cyhoeddwyd25 Awst 2015