Pryder am newid i wasanaethau ambiwlansys plant
- Cyhoeddwyd

Mae'r Gwasanaeth Iechyd yn dweud y bydd pob siwrnai o fewn y canllawiau o dair awr
Mae cynlluniau i symud tîm ambiwlansys brys ar gyfer plant sy'n ddifrifol wael o Gaerdydd i Fryste wedi siomi goruchwylwyr iechyd.
Mae Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymunedol Cymru yn dweud y gallai newidiadau i wasanaethau pediatrig gael effaith ar y gwasanaeth mae cleifion bregus yn ei dderbyn.
Dan y system newydd, bydd tîm ym Mryste yn goruchwylio cludiant plant yng nghanolbarth a de Cymru o ysbytai rhanbarthol i unedau gofal pediatrig.
Yn y gorffennol, roedd tîm ar wahân ar gyfer cludo plant o ganolbarth a gorllewin Cymru, wedi'i leoli yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.
Mae rhai aelodau o staff y Gwasanaeth Iechyd wedi cysylltu â BBC Cymru i fynegi pryder am y newid, gan ddweud y gallai teithio am fwy o amser fod o niwed i gleifion.
Ond mae'r Gymdeithas Bediatrig yn dweud bod y model newydd yn welliant, gan fod y tîm yn delio â chludiant yn unig, yn hytrach na chael dyletswyddau eraill.
Mae'r Gwasanaeth Iechyd yn dweud y bydd pob siwrnai o fewn y canllawiau o dair awr.
Fe gafodd bum lleoliad eu hystyried ar gyfer y tîm newydd - tri yng Nghymru a dau yn Lloegr. Cafodd Ysbyty Plant Bryste ei ddewis oherwydd "cost, gefnogaeth glinigol ag ymarferoldeb".
'Cleifion bregus'
Dywedodd Daniel Phillips o Bwyllgor Gwasanaethau Arbenigol Iechyd Cymru - wnaeth wneud y penderfyniad: "Dros y 14 mlynedd diwethaf, mae symudiad wedi bod i ffwrdd o unedau pediatrig yn rheoli ei drafnidiaeth ei hun tuag at wasanaeth canolog ar gyfer plant sy'n ddifrifol wael.
"Mae Ysbyty Plant Bryste wedi cael gwasanaeth trafnidiaeth ei hun ers pryd. Ry'n ni nawr yn dod at ein gilydd fel un tîm i gynnig gwasanaeth gwell i blant sydd angen gofal."
Dywedodd Tony Rucinski, prif weithredwr Cynghorau Iechyd Cymunedol Cymru: "Ry'n ni wedi siomi nad oedd ymgynghoriad gyda ni.
"Byddwn ni yn edrych yn ofalus iawn i sicrhau nad oes newidiadau er gwaeth i'r gwasanaeth i'r grŵp bregus yma."