Gormod o bwdin...
- Cyhoeddwyd
Mae 14 Tachwedd yn Ddiwrnod Rhyngwladol Clefyd y Siwgwr, dolen allanol. Ond sut beth yw delio o ddydd i ddydd gyda'r cyflwr? Ymhlith y rhai sydd wedi darganfod bod ganddo glefyd y siwgwr, neu diabetes, yw'r digrifwr Gary Slaymaker. Math 2 sydd ganddo a mae wedi defnyddio'r profiad fel sail i'w set gomedi newydd. Bu Cymru Fyw yn ei holi am y cyflwr a'r penderfyniad i'w wneud yn bwnc stand-yp.
Beth oedd yr ysgogaeth i ail-gydio mewn 'stand-up' gyda 'Siwgr Lwmp'?
Fues i'n trafod fy mhrofiadau gyda Type 2 rai blynyddoedd nôl yng gŵyl gomedi Machynlleth. Ar y pryd, rodd 'na ŵr a gwraig yn y gynulleidfa, a rodd hi'n cadw pwno fe bob tro o'n i'n gwneud rhyw bwynt am y symptomau o'dd gyda fi. Ar ddiwedd y set, ddethon nhw draw am air, gyda hi'n gweud bod hi'n siŵr bod y gŵr yn diodde o Type 2, ond yn gwrthod mynd i weld y doctor.
Blwyddyn yn ddiweddarach, fe gwrddes i'r pâr eto yn Mach, a chal gwbod bod e wedi mynd i weld y meddyg, cal gwbod bod e'n diodde o glefyd y siwgr, a bellach yn derbyn triniaeth. Yn fras, hwnna odd gwraidd yr holl beth. O'n i jyst yn teimlo bod e'n rhwyddach i bobol ddeall y broblem 'ma gyda bach o hiwmor, yn hytrach na chal darlith sych… neu waeth fyth, adroddiad fydde'n codi ofan y cythrel arnyn nhw.
Pryd glywais di fod ti'n dioddef?
'Wy'n dachre'r set drwy weud, 'Ges i wbod bo 'da fi Type 2 Diabetes pedair mlynedd nôl, ar y 23ain o Ragfyr… ac yn swyddogol, 'dyw hwnna dal ddim yr anrheg Nadolig gwaetha wy 'di cal". Fydd rhaid i chi weld y sioe neu gwrando ar y rhaglenni ar Radio Cymru neu Radio Wales i glywed beth odd yr anrheg gwaetha'.
Ydy dy brofiadau personol gyda diabetes yn rhai positif neu negatif ar y cyfan?
Ar y cyfan, yn ddigon bositif... yn benna, achos 'nath y doctor weld bod 'na rywbeth o'i le yn weddol gynnar. Ar hyn o bryd, tabledi sy'n cadw pethe dan rheolaeth, ond wedyn 'wy'n byta llai, yfed llai, a 'wy mâs bob dydd ar y beic - wedyn ma hwn i gyd yn helpu.
Ond achos natur ac oriau'r gwaith 'wy'n neud, mae e'n anodd cadw regime cyson i fynd, ond 'wy'n neud fy ngorau. 'Wy yn ffindo, os 'wy 'di gwneud diwrnod hir o leisio a chynhyrchu sioe radio, er enghraifft, a heb gal amser i fyta'n iawn, 'wy'n teimlo'n sigledig o flinedig wedyn; ond 'wy 'di dysgu'n ngwers fynna erbyn hyn, hefyd.
Sut mae wedi newid dy fywyd (os o gwbl)?
Wel, 'wy'n byta llai nag o ni, ac yn yfed lot llai. Wnes rhoi'r gorau i alcohol, yn ystod yr adeg paratoi'r sioeau am dair wythnos heb dwtshad dropyn, ac er mawr syndod (siom, falle), 'wnes i ddim gweld ishe fe o gwbwl... yn enwedig y pennau tost boreol. Fydden i yn gweud, 'dyw cwrw a diabetes ddim yn bartneriaid da, o brofiad personol.
Os rhai o dy ragfarnau am y clefyd wedi cael eu profi (neu eu gwrthbrofi)?
O'n i'n disgwyl newid anferth mewn bywyd, ond mae'n syndod cyn lleied sydd angen i ti wneud, yn enwedig o ran byta, i wella pethe. Llai o fwyd ar y plât, yn benna, ond heblaw 'ny, alli di fyta beth wyt ti moyn. Ma 'na lot o ofergoelion o gwmpas hefyd ynglŷn â byta bananas a grawnwin... ma ambell un yn barnu bod y ffrwythau ma'n ddrwg i bobol â chlefyd y siwgr. Nonsens llwyr.
Ma ffrwythau'n dda i chi beth bynnag; ond ma gormodedd o unrhyw beth yn galler bod yn ddrwg. Jyst mater o synnwyr cyffredin yw hi yn y bôn.
Pa fath o bethau fydd yn cymryd dy sylw yn y sioeau?
'Wy'n dachre drwy sôn am rai o'r symptomau i gadw mewn golwg os 'y chi'n meddwl bod 'da chi glefyd y siwgr, cyn mynd mlân i sôn am y rhesymau sy'n gyfrifol am yr afiechyd. O fynna, mae'n fater o drafod sorto mâs eich bywyd, gyda cwlffyn jiogel o synnwyr cyffredin.
Pa mor bell yw'r ddelwedd 'Slaymaker' o'r Slaymaker go iawn erbyn hyn?
Fuodd 'na byth lot fawr o wahaniaeth rhwng Slaymaker y boi, a Slaymaker y cyflwynydd… heblaw am y ffaith bo' fi'n rhegi lot llai ar y radio a theledu.
O ran y 'stand-up', fi yw hwna, er gorau neu gwaetha. Ac wrth i fi fynd yn henach, 'wy'n sylweddoli bod yr elfen blin odd yn rhan o'r setiau cynnar wedi dod nôl, ac ehangu. Mae'n weddol amlwg mod i bellach yn grumpy old man, a 'wy'n trial adlewyrchu hynny yn y perfformiadau comedi, dyddie hyn.
Siwgwr Lwmp, BBC Radio Cymru, Nos Sadwrn, 14 Tachwedd, 17:30