Cymry'n cynnig cymorth i Calais

  • Cyhoeddwyd
Catrin Wager
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Catrin Wager yn cychwyn am Ffrainc ddydd Sadwrn

Wrth i'r argyfwng ffoaduriaid barhau ar draws Ewrop, mae dwy o Fethesda yng Ngwynedd wedi penderfynu mynd ati i gynnig cymorth ymarferol.

Dros y penwythnos fe fydd Catrin Wager a'r gantores ac actores Lisa Jên yn teithio i Calais gyda llond cerbyd o nwyddau i geisio helpu.

Bu'r ddwy ar Raglen Dylan Jones ar Radio Cymru fore Mawrth yn dweud pam y gwnaethon nhw wneud y penderfyniad.

Dywedodd Catrin: "Fe welais i grŵp ar Facebook oedd yn ceisio cynnig cymorth... roedd gen i ddau benwythnos heb y plant a dyma fi'n cysylltu â'r grŵp i ddweud y baswn i'n fodlon gyrru i Calais a gofyn am rywun i rannu'r gyrru, a dyna pryd y daeth Lisa i gysylltiad.

"Dwi'n methu credu'r ymateb. Mae pawb isho helpu ac isho cyfrannu ac mae dros 2,000 yn y grŵp Facebook erbyn hyn ac mae gennym 26 o leoliadau sy'n derbyn nwyddau ar gyfer y ffoaduriaid."

Ffynhonnell y llun, Bangor-Calais Solidarity

Ychwanegodd Catrin y byddai cael cerbyd mwy yn gymorth mawr.

"Mae gen i gar go fawr ond mae'r ymateb wedi bod mor dda... os fyddai cwmni bysus neu lorïau yn fodlon cyfrannu cerbyd i ni fenthyg i fynd â'r nwyddau i lawr fe fyddai hynny'n wych," meddai.

Dywedodd Lisa Jên: "Pan mae gen ti blant dy hun mae'r teimladau'n fwy rhywsut ac ro'n i'n teimlo fod rhaid i mi wneud rhywbeth.

"Mae Catrin wedi trefnu popeth yn iawn - nid dim ond troi fyny fyddwn ni, mae pobl yno i gwrdd â ni ac mi ydan ni wedi sicrhau ein bod ni'n mynd â phethau sydd eu hangen.

"Mae'r ymateb ariannol wedi bod yn anhygoel hefyd ac mae Catrin wedi sefydlu cynllun 'crowd funding' sydd wedi cael ymateb gwych."

Holodd Dylan Jones sydd y byddai'r ddwy yn medru gwahaniaethu rhwng ffoaduriaid go iawn a phobl oedd yn ceisio symud i Brydain am resymau economaidd, ac atebodd Lisa Jên:

"Does neb sydd yno (Calais) isho bod yno. Maen nhw i gyd mewn rhyw fath o argyfwng ac angen cymorth - pwy ydan ni i farnu? Mi ydan ni yno i helpu."

Bydd Catrin yn cychwyn am Gaerdydd ddydd Gwener cyn i'r ddwy wedyn fynd am Ffrainc ddydd Sadwrn.

Ffynhonnell y llun, Bangor-Calais Solidarity
Disgrifiad o’r llun,

Mae 26 o leoliadau gan y grwp i dderbyn rhoddion ar gyfer y daith