Llafur yn dewis arweinydd newydd

  • Cyhoeddwyd
Jeremy Corbyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mr Corbyn wedi denu tyrfaoedd sylweddol

Fe fydd Llafur yn datgan nes ymlaen y bore 'ma pwy yw arweinydd newydd y blaid, gyda'r disgwyl taw'r AS adain-chwith Jeremy Corbyn fydd yn fuddugol.

Wedi 'mond casglu digon o enwebiadau ar y funud olaf a gweld nifer yn wfftio'i obeithion, mae Mr Corbyn wedi troi'n geffyl blaen dros yr haf, gan ddenu tyrfaoedd sylweddol i wrando ar ei areithiau.

Eisoes mae'r Ceidwadwyr wedi ceisio bychanu'i agenda polisi - sy'n cynnwys ail-wladoli'r rheilffyrdd - ac awgrymu y byddai'n "fygythiad" i ddiogelwch y wlad.

Mae rhai ASau Llafur hefyd yn poeni na allai Mr Corbyn ennill etholiad cyffredinol.

Yr ymgeiswyr eraill yw Yvette Cooper, Andy Burnham a Liz Kendall.

Gydag etholiadau'r Cynulliad ar y gorwel fis Mai, mae'r blaid yng Nghymru yn gwylio'r canlyniad yn ofalus.

Mae disgwyl i'r Prif Weinidog Carwyn Jones - sydd eto i gynnal cyfarfod â Mr Corbyn - ddychwelyd o ymweliad swyddogol o Japan heno.

Yn gynharach yn yr haf disgrifiodd Mr Jones Mr Corbyn fel "dewis anarferol" - er nad yw e wedi datgan cefnogaeth i unrhyw ymgeisydd.

Dywedodd Alun Davies, AC Blaenau Gwent, fod angen i'r blaid uno tu cefn i'r arweinydd newydd.

'Rhaid symud ymlaen'

Dywedodd Mr Davies, sy'n cefnogi Andy Burnham: "Dwi'n credu fod Jeremy Corbyn yn mynd i ennill ac fe fydd rhaid i ni symud ymlaen. Does dim pwynt i bobl fel finnau sy' wedi cefnogi ymgeiswyr eraill bryderi a becso ynglŷn â'r canlyniad.

"Mae ganddo fe fandad, wedi ennill yn glir - os yw hynny'n digwydd - ac fe fydd yn rhaid i ni dderbyn ei fod e wedi ennill ac mae'n rhaid i ni symud ymlaen.

"Mae'n rhaid i ni greu rhywbeth sy'n wrthblaid i'r blaid Geidwadol."

Ychwanegodd ei fod e "ddim yn derbyn fod gennym ni ddim gobaith".

Yn ôl Mick Antoniw, yr AC dros Bontypridd sy'n cefnogi Mr Corbyn, fe fyddai'n "anodd" i'r AS dros Ogledd Islington ennill etholiad yn syth.

Ond dywedodd: "Fe fydd 'na ymosodiadau arno yn y cyfryngau; fe fyddan nhw'n ceisio ail-wneud yr hyn wnaethon nhw i Michael Foot ers llawer dydd.

"Ond dwi'n meddwl y bydd e'n rhywun y bydd pobol yn dweud, wel er gwaethaf hynny dyma rywun sy'n onest ac sy'n siarad ein hiaith ni, a dwi'n meddwl y galle fe'n sicr fod yn Brif Weinidog."

Mae rhai ASau yn poeni y bydd rhai o sylwadau blaenorol Mr Corbyn yn creu trafferthion - fe fuodd yn feirniadol o NATO ac mae wedi awgrymu peidio ag adnewyddu'r system amddiffyn niwclear Trident.

"Dwi'n anghytuno â Jeremy ar bolisi tramor a pholisi amddiffyn," meddai AS Pen-y-bont Madeleine Moon. "Mae hyn yn sgwrs fydd rhaid i ni ei chael, a dwi'n credu y bydd hi'n sgwrs anodd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae pedwar yn y ras i olynu Ed Miliband, Yvette Cooper, Jeremy Corbyn, Liz Kendall ac Andy Burnham,