Jeremy Corbyn AS wedi ei ethol fel arweinydd y blaid Lafur

  • Cyhoeddwyd
Jeremy CorbynFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Jeremy Corbyn AS wedi ei ethol fel arweinydd y blaid Lafur. Fe lwyddodd i drechu ei wrthwynebwyr Yvette Cooper, Andy Burnham a Liz Kendall yn y ras am arweinyddiaeth y blaid gyda mwyafrif sylweddol.

Llwyddod i sicrhau 59.4% o'r pleidleisiau - oedd 40% yn fwy na'i ymgeisydd agosaf yn y ras, Andy Burnham, gafodd 19% o'r bleidlais.

Cafodd Tom Watson AS ei ddewis fel dirprwy arweinydd y blaid.

Cafodd y canlyniad ei gyhoeddi mewn cynhadledd arbennig yn San Steffan. Jeremy Corbyn oedd dewis amlwg aelodau a chefnogwyr y blaid, ac mae nawr yn wynebu'r sialens o uno'r blaid, gan benodi tîm i arwain y blaid a pharatoi i wynebu David Cameron yn ystod cwestiynnau i'r prif weinidog ddydd Mercher nesaf.

Cefnogaeth

Nid oedd unrhyw un o'r 25 aelod seneddol Llafur o Gymru wedi cefnogi Mr Corbyn, er bod ganddo gefnogaeth ymysg aelodau'r Cynulliad ym mae Caerdydd. Fe fydd ei brawf etholiadol cyntaf yn dod yn ystod etholiadau'r Cynulliad fis Mai nesaf.

Yn ystod ei araith gyntaf fe wnaeth Mr Corbyn dalu teyrnged i Brif Weinidog Cymru Carwyn Jones, gan ei longyfarch am "ddod â'r farchnad fewnol yn y Gwasanaeth Iechyd i ben".

Mae Mr Jones ar ei ffordd yn ôl o ymweliad swyddogol â Japan.

Wrth groesawu'r newyddion am fuddugoliaeth Mr Corbyn, dywedodd Carwyn Jones: "Llongyfarchiadau mawr i Jeremy ar ei fuddugoliaeth drawiadol. Mae ei ymgyrch wedi sbarduno nifer anferth o bobl oedd wedi colli cysylltiad gyda gwleidyddiaeth plaid ac mae'n rhaid i ni gofleidio hyn.

"Y sialens nawr i'r blaid yw i uno, cael trefn a wynebu'r Torïaid. Rwyf yn edrych ymlaen i gyfarfod Jeremy yn fuan i drafod ein hymgyrch am yr etholiad tyngedfenol yng Nghymru y flwyddyn nesaf."

Disgrifiad o’r llun,

Jeremy Corbyn yn annerch y gynulleidfa yn y gynhadledd yn dilyn cael ei ddewis fel yr arweinydd newydd

Ymateb

Yn dilyn cyhoeddi buddugoliaeth Mr Corbyn, dywedodd Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb: "Mae gan Lafur Cymru o'r diwedd arweinydd Prydeinig yn ei fowld ei hun - maen nhw wedi gwahardd Ysgolion Rhydd, Academïau, Yr Hawl i Brynu. Mae Cymru'n barod wedi bod yn faes prawf i Gorbynyddiaeth".

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood fod ethol Mr Corbyn yn gwneud dim i newid "record ofnadwy Llafur mewn llywodraeth yng Nghymru."

Ychwanegodd: "Mae Plaid Cymru yn llongyfarch Jeremy Corbyn ar gael ei ethol.

"Rydym yn gobeithio y bydd e nawr yn gwneud i'w ASau ymuno ag ASau Plaid Cymru yn gwrthwynebu polisïau Torïaidd sydd yn achosi niwed anferth i bobl yng Nghymru a thu hwnt.

"Ond ni all ei ethol wneud dim i newid record ofnadwy Llafur mewn llywodraeth yng Nghymru.

"Ers datganoli maen nhw wedi dod i gael eu hadnabod am eu methiant a'r ffordd maen nhw'n llywodraethu dros ddirywiad."

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig Kirsty Williams: "Gyda phlaid Geidwadol mewn grym sydd yn ymddwyn fel ein bod yn yr 1980au, y peth olaf ddylie'r blaid Lafur fod yn wneud ydi ymddwyn fel ei bod yn y 1970au.

"Mae math Corbyn o wleidyddiaeth yn cynhyrchu llawer o swn, ond dim ond un peth sydd yn llwyddo i ffrwyno llywodraeth gredadwy, sef gwrthblaid gredadwy.

"Mewn gwirionedd, fe fydd Llafur o dan Corbyn yn dod yn groes i'r hyn sydd ei angen ar y wlad ar hyn o bryd: gwrth-Ewrop, gwrth-fusnes ac yn anllythrennog yn economaidd."

Disgrifiad o’r llun,

Daeth 1,000 o bobl i gyfarfod rali Jeremy Corbyn yng Nghaerdydd yn ystod yr ymgyrch

Undod

Dywedodd Alun Davies, AC Blaenau Gwent, wrth BBC Cymru cyn y bleidlais fod angen i'r blaid uno tu cefn i'r arweinydd newydd.

Dywedodd Mr Davies, oedd yn cefnogi Andy Burnham yn yr ymgyrch: "Does dim pwynt i bobl fel finnau sy' wedi cefnogi ymgeiswyr eraill bryderi a becso ynglŷn â'r canlyniad.

"Mae ganddo fe fandad, wedi ennill yn glir - ac fe fydd yn rhaid i ni dderbyn ei fod e wedi ennill ac mae'n rhaid i ni symud ymlaen.

"Mae'n rhaid i ni greu rhywbeth sy'n wrthblaid i'r blaid Geidwadol."

Ychwanegodd ei fod e "ddim yn derbyn fod gennym ni ddim gobaith".

Etholiad

Yn ôl Mick Antoniw, yr AC dros Bontypridd oedd yn cefnogi ymgyrch Mr Corbyn, fe fyddai'n "anodd" i'r AS dros Ogledd Islington ennill etholiad yn syth.

Ond dywedodd: "Fe fydd 'na ymosodiadau arno yn y cyfryngau; fe fyddan nhw'n ceisio ail-wneud yr hyn wnaethon nhw i Michael Foot ers llawer dydd.

"Ond dwi'n meddwl y bydd e'n rhywun y bydd pobol yn dweud, wel er gwaethaf hynny dyma rywun sy'n onest ac sy'n siarad ein hiaith ni, a dwi'n meddwl y galle fe'n sicr fod yn Brif Weinidog."

Mae rhai ASau yn poeni y bydd rhai o sylwadau blaenorol Mr Corbyn yn creu trafferthion - fe fuodd yn feirniadol o NATO ac mae wedi awgrymu peidio ag adnewyddu'r system amddiffyn niwclear Trident.

"Dwi'n anghytuno â Jeremy ar bolisi tramor a pholisi amddiffyn," meddai AS Pen-y-bont Madeleine Moon. "Mae hyn yn sgwrs fydd rhaid i ni ei chael, a dwi'n credu y bydd hi'n sgwrs anodd."

Disgrifiad o’r llun,

Llwyddodd Mr Corbyn i drechu ei wrthwynebwyr Yvette Cooper, Liz Kendall ac Andy Burnham