Cael gwared â pheilonau ger Porthmadog

  • Cyhoeddwyd
peilonau Parc Cenedlaethol Eryri

Mae rhan o Barc Cenedlaethol Eryri rhwng Portmeirion a Llyn Trawsfynydd ymysg pedair ardal fydd yn elwa o fuddsoddiad gan gwmni'r National Grid.

Bwriad y cynllun gwerth £500 miliwn yw cael gwared â pheilonau a gwifrau, gan osod ceblau o dan y ddaear yn eu lle.

Fe gafodd yr ardal ei dewis yn rhan o'r cynllun wedi iddi gyrraedd rhestr fer o wyth llecyn.

Wnaeth Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ddim cyrraedd y brig.

Dywedodd Chris Baines, Cadeirydd y Grŵp Cynghori i Randdeiliaid: "Mae lleihau effaith weledol peilonau a llinellau pŵer yn ein tirweddau mwyaf gwerthfawr yn ddymunol iawn, ond mae hefyd yn gostus iawn ac yn gymhleth o safbwynt technegol ac felly rydym wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd.

"Er bod pedwar cynllun wedi'u blaenoriaethu, nid oes yr un o'r lleoliadau ar ein rhestr fer wreiddiol wedi'i ollwng yn llwyr a byddant yn dal o dan ystyriaeth ar gyfer gwaith yn y dyfodol i leihau effaith llinellau trawsyrru National Grid o dan y Prosiect i Ddarparu ar gyfer Effaith Weledol."

Dywedodd Hector Pearson, Rheolwr y Prosiect i Ddarparu ar gyfer Effaith Weledol National Grid: "Mae hwn yn brosiect unigryw o dan arweiniad rhanddeiliaid ac mae'n dal yn gyfle o bwys i warchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt, a threftadaeth ddiwylliannol ac amgylcheddol rhai Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a Pharciau Cenedlaethol.

"Byddwn yn dal i weithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid nid yn unig i leihau effaith ein llinellau trawsyrru yn yr ardaloedd hyn ond hefyd i wella'r dirwedd a chynnig gwerth am arian."