Yr her o ddenu Cymry i fyd y gyfraith
- Cyhoeddwyd
Mae elusen sy'n ceisio annog pobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig yng Nghymru i ystyried gyrfa ym myd y gyfraith, yn poeni nad yw ysgolion yn gwneud digon i dynnu sylw disgyblion at y cyfleoedd sydd ar gael.
Bob blwyddyn mae elusen LEDLET yn trefnu bod 10 disgybl disglair yn cael cyfle i dreulio wythnos yn Llundain yng nghwmni rhai sydd wedi cyrraedd uchelfannau byd y gyfraith.
Mae un o ymddiriedolwyr yr elusen, Rhys Meggy, wedi trefnu digwyddiad yn y Senedd ym Mae Caerdydd i godi ymwybyddiaeth.
Elusen yw LEDLET gyda'r nôd o hyrwyddo mynediad i fyd y gyfraith ymysg myfyrwyr ysgol uwchradd llai breintiedig yng Nghymru. Yn ehangach, ein bwriad yw hyrwyddo mudoledd cymdeithasol drwy ysgogi pobl ifanc Cymru i anelu'n uchel beth bynnag eu dyheadau, p'un ai ym maes y gyfraith neu fel arall.
'Anela'n uchel' yw ein harwyddair. Fe'i tynnwyd o arfbais y diweddar Arglwydd Edmund-Davies, Cymro Cymraeg a'i ganed i deulu cyffredin yng Nghwm Cynon ar droad y ganrif ddiwethaf ac aeth ymlaen i fod yn un o gyfreithwyr a barnwyr mwyaf blaenllaw'r Deyrnas Unedig yn yr ugeinfed ganrif. Pan fu farw ym 1992, dywedwyd bod ei yrfa wedi rhoi taw ar y rhith mai pobl ifanc o gefndiroedd breintiedig a chefnog yn unig allai gael gyrfaoedd llwyddiannus yn y gyfraith.
Er hynny, bron i 25 mlynedd yn ddiweddarach, mae'r rhith llechwraidd a niweidiol hwnnw'n parhau i fod yn gyffredin, ac yn arbennig yng Nghymru.
Mae gwaith LEDLET yn ceisio mynd i'r afael â chamsyniadau o'r fath yma. Rydym yn gweithredu mewn dau fodd.
Yn y gyntaf, rydym yn cynnal 'Cynllun Haf', a phob blwyddyn ym mis Gorffennaf, lle mae 10 o fyfyrwyr chweched dosbarth yn cael eu dewis o blith ceisiadau ar draws Cymru i fynd i Lundain am wythnos o brofiad gwaith yng nghalon yr ardal gyfreithiol.
Maent bob un yn treulio diwrnod yn siambrau bargyfreithiwr, diwrnod gyda chwmni cyfreithwyr, a diwrnod yn eistedd gyda barnwyr yn yr 'Old Bailey'. Gyda'r nos, maent yn cwrdd â myfyrwyr a chyfreithwyr ifanc ac yn dysgu sut i baratoi ceisiadau i brifysgolion.
Mae'n glir bod y profiad yn gweddnewid rhagolygon y myfyrwyr - mae sawl un bellach wedi mynd i ymlaen i ennill llefydd i astudio'r gyfraith yn rhai o brifysgolion gorau Cymru a Lloegr, gan gynnwys Rhydychen. Mae eraill wedi dysgu nad yw diffyg cysylltiadau, fel cyfreithwr yn y teulu, yn rhwystr go-iawn i lwyddo yn y gyfraith.
Meithrin yr ifanc
Yn ail, mae LEDLET yn mynd i ysgolion a siarad â myfyrwyr am ddilyn gyrfa yn y gyfraith. Rydym yn ceisio dal myfyrwyr yn ifanc - cyn eu TGAU os yn bosib - er mwyn sicrhau eu bod yn cael ein neges mewn amser i sicrhau graddau da ar eu cam cyntaf at yrfa lwyddiannus. Ond dyma lle rydym ar hyn o bryd yn cwrdd â'n rhwystrau ein hunan, a dyna yw pwrpas ein anerchiad i'r Cynulliad ddydd Iau.
Y llynedd, ysgrifennom at bob prifathro a phrifathrawes yng Nghymru yn hysbysebu ein mentrau ac yn cynnig ein gwasanaethau. Bu'n bosib cyfri'r atebion cawsom ar ddwy law. Rydym hefyd wedi sylwi mai, yn aml, disgyblion 'blaen y dosbarth' - y prif-fechgyn a'r prif-ferched - sy'n cael eu cyfeirio at ymgeisio am y Cynllun Haf, gan awgrymu fod yna elfen o sgrinio yn mynd ymlaen o fewn i ysgolion.
Newid agwedd
Mae canran go sylweddol o fyfyrwyr wedi sôn wrthym am rai - athrawon yn yr ysgol neu bobl yn y gymuned - sydd wedi eu cynghori i beidio a dilyn gyrfaoedd yn y gyfraith, yn aml ar y sail ei bod hi'n anodd llwyddo, neu nad yw'r fath yrfaoedd yn 'iawn iddyn nhw'. Mae astudio'r gyfraith yn sialens enfawr, ac nid yw'n addas i bawb, ond ein braw yw bod y fath gyngor yn cael ei roi i fyfyrwyr sy'n glir i ni yn bobl ifanc talentog ac addawol.
Does dim malais yn y fath gyngor. Diffyg dealltwriaeth ymysg y 'cynghorwyr' sydd ar fai; yr un diffyg dealltwriaeth sydd wedi arwain at gwymp enfawr yn nifer y ceisiadau gan bobl ifanc Cymru i brifysgolion mwyaf blaenllaw'r wlad yn y blynyddoedd diwethaf. Ond rydym yn sicr bod angen mynd i'r afael a'r rhwystr ychwanegol hwn.
Mewn oes pan fod hunaniaeth gyfreithiol i Gymru wedi ei hystyried am y tro cyntaf, mae meithrin talent gyfreithiol y wlad yn fwy pwysig nawr nag y bu hi erioed o'r blaen.