'Toriadau sylweddol': Ymgynghori Gwynedd
- Cyhoeddwyd

Fyddech chi'n hapus i gael gwared ar eich canolfannau hamdden neu ddileu'r ddarpariaeth brecwast am ddim i ddisgyblion?
Fyddai'n well ganddoch chi ddewis cael gwared ar wasanaeth ieuenctid eich cyngor, neu ddileu'r gyllideb ar gyfer cludiant cyhoeddus?
Dyma rai o'r cwestiynau y bydd Cyngor Gwynedd yn eu gofyn i drethdalwyr y sir wrth i'r awdurdod ddechrau ymgynghoriad cyhoeddus yn y dyddiau nesaf mewn ymdrech i ganfod toriadau gwerth £7m.
Fel rhan o'r ymgynghoriad fe fydd yr awdurdod yn gofyn i bobl ystyried dyfodol rhai o wasanaethau mwyaf amlwg y cyngor.
Ymysg rhai o'r ystyriaethau posib fydd yn cael eu cyflwyno, fe fydd y cyngor yn ceisio canfod barn y cyhoedd am:
Gael gwared ar ganolfannau hamdden y sir (fyddai'n golygu arbedion o £852,000);
Dileu'r ddarpariaeth brecwast am ddim i ddisgyblion (fyddai'n arbed £551,000);
Dileu'r gwasanaeth ieuenctid (fyddai'n arbed £819,000).
Mewn cyfarfod ym mis Gorffennaf fe wnaeth cabinet Cyngor Gwynedd benderfynu pa doriadau y dylid eu cynnig fel opsiynau er mwyn i'r cyhoedd gael lleisio eu barn arnyn nhw, ac fe fydd aelodau'r cyngor yn ystyried adborth y cyhoedd ym mis Rhagfyr ar ddiwedd y cyfnod ymgynghorol.
Cynigion
Ymysg rhai o'r cynigion fydd yn cael eu cynnig i'r cyhoedd fel rhan o'r broses ymgynghorol bydd:
Llyfrgelloedd - canfod barn ar dorri elfennau o'r gwasanaeth ac arbed £340,000
Celfyddyd ac amgueddfeydd - canfod barn ar ddileu'r gwasanaeth ac arbed £379,660
Cynnal tiroedd - canfod barn ar ddileu'r ddarpariaeth ac arbed £500,000
Llwybrau cyhoeddus - canfod barn ar haneru maint y gweithlu a hanneru'r gyllideb cynnal ac arbed £320,000
Gorfodaeth stryd - canfod barn ar ddileu'r ddarpariaeth ac arbed £300,150
Cludiant cyhoeddus - canfod barn ar leihau 20% o rwydwaith cludiant y sir gan arbed £300,000
Twristiaeth a marchnata - canfod barn ar ddileu'r gwasanaeth ac arbed £459,860
Morwrol a pharciau gwledig - canfod barn ar opsiynnau o beidio rheoli traethau ac arbed £81,900
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd y bydd yn rhaid i gynghorwyr Gwynedd benderfynu pa wasanaethau lleol i'w gwarchod a pha rai i'w torri yn gynnar yn 2016. Cyn hynny, mae gan bobl leol y cyfle i ddweud eu dweud ar amrediad o opsiynau posib gwerth £12m y maent yn ei deimlo sydd bwysicaf iddyn nhw ac felly y byddent am eu hepgor o'r rhestr derfynol o doriadau.
'Toriadau sylweddol'
Dywedodd y Cynghorydd Dyfed Edwards, Arweinydd Cyngor Gwynedd: "Fel cyngor, rydym wedi llwyddo i warchod gwasanaethau hanfodol i drigolion y sir ers sawl blwyddyn, i raddau helaeth, diolch i gynllunio ariannol gofalus a chydweithio cadarnhaol gyda'n partneriaid amrywiol.
"Fodd bynnag, nid cyfnod o chwilio am fân arbedion fan hyn a fan draw ydi hi bellach, ond cyfnod lle nad oes gan y cyngor unrhyw ddewis ond i wneud toriadau sylweddol.
"Ond yn hytrach na chyflwyno toriadau byrbwyll, rydym yn benderfynol o ddal ati i ymateb i doriadau'r llywodraeth drwy ganolbwyntio ar flaenoriaethau pobl Gwynedd. Dyna pam ein bod am i bobl leol rannu eu barn ar y gwasanaethau penodol y mae arnyn nhw eisiau i ni eu gwarchod os bydd hynny'n bosib gan gymryd rhan yn yr ymarferiad ymgysylltu sirol.
"Yna, pan fydd y broses yma wedi ei chwblhau a'r canlyniadau wedi eu dadansoddi, gall holl gynghorwyr Gwynedd ystyried barn trigolion y sir cyn dod i benderfyniad terfynol ar y toriadau terfynol y bydd yn rhaid eu gweithredu."
Ychwanegodd y cyngor ei bod yn bwysig nodi nad oes unrhyw benderfyniad wedi ei wneud, ac nid yw'r ffaith fod gwasanaeth penodol wedi eu cynnwys ar y rhestr hir o opsiynau posib yn golygu o reidrwydd y bydd yn cael ei gynnwys ar y rhestr derfynol o doriadau gwerth £7 miliwn.
