Gwobr Siân Phillips i Euros Lyn

  • Cyhoeddwyd
Euros Lyn

Y cyfarwyddwr ffilm a theledu, Euros Lyn, yw enillydd Gwobr Siân Phillips BAFTA Cymru eleni.

Fe gyhoeddwyd y newyddion mewn digwyddiad yng Nghaerdydd nos Iau.

Bydd yn derbyn wobr - sy'n cael ei rhoi i Gymro neu Gymraes sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i fyd y ffilm yn rhyngwladol neu i deledu rhwydwaith - yn seremoni wobrwyo Bafta Cymru ddiwedd y mis.

Mae Doctor Who, Happy Valley a Broadchurch ymysg ei waith amlycaf ac ef hefyd gyfarwyddodd Pam Fi Duw?, Y Glas a Diwrnod Hollol Mindblowing Heddiw.

Cyn-enillwyr y wobr yw Rhys Ifans, Russell T Davies, Michael Sheen, Ioan Gruffudd, Ruth Jones, Rob Brydon, Matthew Rhys, Robert Pugh, Julie Gardner a Jeremy Bowen.

'Braint enfawr'

Dyma'r tro cyntaf i gyfarwyddwr ennill y wobr.

Fe ddywedodd Euros Lyn ei bod hi'n "fraint enfawr cael dilyn ôl troed Rhys Ifans, Julie Gardner a Matthew Rhys, ac i dderbyn gwobr yn enw Siân Phillips, enw mwya'r sgrîn o fy milltir sgwâr i - Cwm Tawe."