Partneriaeth yn hwb i gynllun i ailddatblygu Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni yswiriant Legal & General yn dweud y bydd partneriaeth newydd gyda chwmni datblygwyr Rightacres yn creu 10,000 o swyddi yng nghanol Caerdydd.
Mae'r cytundeb yn golygu y bydd Legal and General yn buddsoddi mewn cynllun gwerth £400 miliwn i drawsnewid safle 12 erw i'r gogledd o'r brif orsaf drenau.
Mae rhan gyntaf y prosiect - adeilad 135,000 troedfedd sgwâr ar gyfer swyddfeydd -i'w gwblhau erbyn Ionawr 2016.
Yn ôl y datblygwyr bydd ail ran y prosiect yn cynnwys codi pencadlys arfaethedig BBC Cymru erbyn 2018.
Mae cynlluniau hefyd i agor gorsaf bysiau newydd erbyn Rhagfyr 2017.
Dywedodd Tom Roberts, un o uwch reolwyr Legal and General: "Rydym yn hynod o falch i gyfrannu tuag at adnewyddiad un o ardaloedd mwyaf pwysig y brifddinas sef y Sgwar Canolog. Mi fydd safon y bensaernïaeth ac adeiladwaith yn creu awyrgylch bleserus i bobl Caerdydd fwynhau.
"Yn ogystal mi fydd y datblygiad yn creu argraff ffafriol gyda'r miloedd ar filoedd o ymwelwyr i Gaerdydd wrth iddyn nhw gyrraedd Caerdydd Canolog."
Dywedodd Phil Bale, arweinydd Cyngor Caerdydd: "Mae hwn yn bennod newydd a chyffrous ac yn brawf o'r hyder sydd gan L&G yn y rhanbarth.
"Mae'r cyngor wedi gwneud datblygu ardal y Sgwar Canolog yn flaenoriaeth."
Yn ôl y canghellor George Osborne mae'r newyddion yn hwb mawr i economi Cymru.
"Mae'r cynllun ailddatblygu gwerth £400,000 o ganlyniad i'r bartneriaeth yn newyddion gwych i bobl Cymru a bydd o'n trawsnewid canol Caerdydd gan greu 10,000 o swyddi newydd."