Llai i gael grantiau gan y Cyngor Celfyddydau

  • Cyhoeddwyd
Arts Alive
Disgrifiad o’r llun,

Ymhlith y pedwar sefydliad newydd i dderbyn nawdd mae Arts Alive

Bydd 67 o sefydliadau yn derbyn nawdd gan Gyngor Celfyddydau Cymru dros y pum mlynedd nesa' - gyda phedwar o'r rheiny'n derbyn arian am y tro cynta' - fel rhan o adolygiad diweddara' y Cyngor.

Mae 'na ddau sefydliad yn llai wedi'u cynnwys yn y portffolio dros dro'r tro hwn ac mae pum sefydliad wedi clywed na fyddan nhw'n derbyn mwy o arian, sef Earthfall, Dawn TAN, Theatr Fynnon, Touch Trust a SWICA.

Y pedwar sefydliad newydd fydd Arts Alive, Sefydliad Glowyr y Coed Duon, Jukebox Collective ac Ymddiriedolaeth Neuadd Les a Chymuned Glowyr Ystradgynlais Cyf.

Roedd 'na 26 o sefydliadau eraill hefyd wedi gwneud cais i fod yn rhan o'r portffolio, ond dydyn nhw ddim wedi eu cynnwys yn y portffolio dros dro gafodd ei gyhoeddi fore Mercher. Dywed y Cyngor bod cyfle i'r sefydliadau hynny nawr wneud cais am gyllid y Loteri i gynnal eu prosiectau yn y dyfodol.

Does dim manylion eto ynglŷn â faint o arian fydd y sefydliadau sy'n rhan o'r portffolio yn derbyn o fis Ebrill nesa'.

Eleni roedd 'na ychydig dros £27m i'w rannu rhwng y sefydliadau, ond gyda'r Cyngor yn wynebu rhagor o doriadau cyllid y flwyddyn nesa', mae'r toriadau hynny'n debygol o gael eu trosglwyddo i'r cwmnïau sydd ar y rhestr newydd.

Dadansoddiad Gohebydd Celfyddydau a Chyfryngau BBC Cymru, Huw Thomas:

"Roedd cadeirydd y Cyngor wedi gofyn i'w aelodau i fod yn ddewr ac yn gadarn wrth ddewis aelodau newydd y portffolio.

Ond mae'n debyg mai'r hinsawdd ariannol anodd sydd wedi ysgogi penderfyniad ceidwadol ynghylch pa gwmniau fydd yn cael eu hariannu.

Mae aelodau newydd y rhestr yn dod ag amrywiaeth i'r portffolio - fe fydd grŵp sy'n hyrwyddo dawnsio stryd a hip-hop yn derbyn nawdd cyson gan y Cyngor am y tro cyntaf.

Fe fydd rhaid i'r cwmnïau llwyddianus aros tan y flwyddyn newydd cyn clywed faint o gyllid byddant yn ei dderbyn fel aelodau newydd portffolio y Cyngor, gyda'r corff hynny yn disgwyl gostyngiad yn yr arian fydd ar gael i'r sector o fis Ebrill 2016 ymlaen."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Cwmni Theatr Taking Flight o Gaerdydd wedi gwneud cais am nawdd am y tro cynta', ond doeddan nhw ddim yn llwyddiannus

'Cyfnod digon anodd'

Wrth gyhoeddi canlyniad yr adolygiad, dywedodd Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, Dai Smith:

"Mae hi'n gyfnod digon anodd, ond rydym ni wedi clustnodi portffolio cyffrous o sefydliadau, o rai rhyngwladol i rai lleol iawn - sefydliadau yw'r rhain sy'n dathlu'r gorau o Gymru ar lwyfan ryngwladol, a rhai sy'n gweithio gyda chymunedau lleol.

"Dyma'r sefydliadau sy'n tanio'n dychymyg. O iechyd i dwristiaeth ddiwylliannol, o gelf gyhoeddus i adfywio canol trefi, mae'r celfyddydau'n dod â mwynhad, ysbrydoliaeth a chysur, boed hynny trwy dreulio noson braf yn y theatr leol, neu trwy roi cynnig ar rywbeth creadigol eich hun.

"Mae'r celfyddydau'n creu ac yn cynnal swyddi, yn cyfoethogi gwasanaethau addysg, yn tynnu pobl at ei gilydd, ac yn gwella ansawdd ein bywydau. Mae'r celfyddydau'n bwysig."

Ymateb sefydliadau

Disgrifiad o’r llun,

Mae Touch Trust ymhlith y rhai sydd wedi'u hepgor o'r portffolio'r tro hwn

Dywedodd Simon Carnell, o Touch Trust - rhaglen sy'n cynnig cyfleoedd celfyddydol i blant ac oedolion ag anableddau, ac sydd wedi derbyn nawdd gan y Cyngor ers 10 mlynedd - eu bod "wedi eu tristáu" nad ydyn nhw'n rhan o'r portffolio newydd.

"Mae ein gwaith yng Nghymru'n unigryw ac mae gennym record dda o weithio gyda phobl gydag anableddau dwys yn ein cymunedau....Bydd colli'r nawdd gan Gyngor Celfyddydau Cymru'n golygu bod yn rhaid i ni ailystyried ein cynlluniau i dyfu ond rydyn ni'n benderfynol o barhau i ddarparu rhaglen greadigol ragorol a fforddiadwy i'n cwsmeriaid."

Bydd Theatr na n'Óg yn un o'r sefydliadau fydd yn parhau i dderbyn refeniw, a dywedodd cadeirydd bwrdd y Theatr, Carolyn Davies ei bod yn ddiolchgar "fod y Cyngor Celfyddydau yn cydnabod trawsnewidiad y cwmni bach hwn ers adolygiad 2010, sydd wedi ein galluogi ni i fod yn flaenllaw wrth greu straeon yn y ddwy iaith sydd wedi denu cynulleidfaoedd ledled Cymru a Phrydain, yn ogystal â'n rhyngwladol.

"Rydym yn obeithiol bydd y swm yn ddigonol i'n galluogi ni i barhau gyda'n gwaith o greu theatr sy'n ysbrydoli ac ysgogi ein cynulleidfaoedd yn y dyfodol."

Bob pum mlynedd mae'r Cyngor yn cynnal adolygiad o'u buddsoddiadau. Yn 2010 fe gollodd 32 o gwmnïau eu nawdd blynyddol, yn rhannol neu yn llawn.

Gallwch weld rhestr lawn o'r cwmnïau sy'n rhan o bortffolio dros dro Cyngor y Celfyddydau yma, dolen allanol.