Clybiau cyn-ysgol Môn: Codi 75c y pen?
- Cyhoeddwyd
Bydd aelodau Cyngor Ynys Môn yn trafod argymhelliad ddydd Mawrth i godi 75c am bob plentyn fydd yn mynychu clybiau gofal cyn-ysgol rhwng 8.00 a 8.25 yn y sir.
O dan yr argymhelliad fydd yn cael ei drafod mewn cyfarfod o'r cyngor llawn, fe fyddai ysgolion wedyn yn rhedeg clybiau brecwast di-dâl rhwng 8.25 a 8.50 y bore.
Ni fyddai presenoldeb plentyn mewn clwb cyn-ysgol yn ofynnol ar gyfer presenoldeb mewn clwb brecwast.
Petai'r trefndiadau yn cael eu cymeradwyo, yna fe fyddai'r cyngor yn gobeithio gweithredu'r drefn newydd ym mis Medi 2016. Mae'r clwb brecwast am ddim presennol yn costio £385,000 y flwyddyn i'r sir.
Fe fyddai'r ffi yn cael ei gosod yn 75c y dydd y plentyn ar gyfer y clwb gofal cyn-ysgol, ac os oes gan deulu dri neu fwy o blant, fe fyddai'r ffi yn £2 y diwrnod ar gyfer y teulu.
'Trafodaeth'
Dywedodd y Pennaeth Dysgu, Delyth Molyneux: "Roedd cynigion cychwynnol i newid y trefniadau presennol ar gyfer brecwast am ddim mewn ysgolion yn rhan o ymgynghoriad y Cyngor ar y gyllideb y llynedd a chafwyd cryn drafodaeth yn sgil eu cyflwyno.
"Fe wnaethom wrando ar yr hyn yr oedd gan bobl i ddweud a chytunwyd cynnal asesiad effaith llawn, ymgynghori gyda rhieni a chynnal rhagor o waith ymchwil.
"Mae'r arolwg yma'n rhan o'r broses ymgynghori a byddwn yn annog cymaint o rieni â phosib i ddatgan barn. Ceir mynediad i'r arolwg ar-lein drwy wefan y Cyngor Sir ac mae copïau caled hefyd ar gael yn yr ysgolion cynradd lleol."
"Bu I dros 1,000 o bobl ymateb i'n harolwg ni, gydag oddeutu 60% yn dweud eu bod nhw'n defnyddio'r ddarpariaeth ar gyfer gofal plant ac o rain 92% yn dweud bod hyn er mwyn iddynt allu mynd i'r gwaith."
'Toriadau'
Dywedodd y deilydd portffolio Addysg, y Cynghorydd Kenneth Hughes: "Os caiff y cynigion yma eu cymeradwyo, bydd y Cyngor yn dal i gyfrannu tuag at y cynllun newydd, gyda phob disgybl dal yn gymwys i frecwast am ddim o 8.25."
"Byddai cyfraniadau rhieni yn helpu i sicrhau fod cyfanswm y gost yn is i'r cyngor nag ydyw ar hyn o bryd, a hynny, yn holl bwysig, yn sicrhau bod toriadau i rannau eraill o'r gyllideb addysg yn llai."
Darperir brecwast am ddim mewn 46 allan o 47 ysgol gynradd ym Môn ar hyd o bryd.