Merch fach i'r gantores Katherine Jenkins

  • Cyhoeddwyd
Katherine Jenkins

Mae'r gantores mezzo-soprano enwog o Gastell-nedd Katherine Jenkins wedi rhoi genedigaeth i ferch fach ddydd Mercher.

Mewn neges ar wefan gymdeithasol, cyhoeddodd y gantores fod ei merch - o'r enw Aaliyah Reign Levitas - wedi ei geni yn pwyso bron i saith pwys.

Dywedodd fod pawb wedi gwirioni ac yn ddiolchgar am enedigaeth "gwyrth fechan hapus ac iach".

Fe briododd hi'r cynhyrchydd ffilmiau o Efrog Newydd Andrew Levitas yn 2014.

Ffynhonnell y llun, Katherine Jenkins/Instagram