Lluniau: Syr Tom Jones
- Cyhoeddwyd
Does dim dwywaith bod Syr Tom Jones wedi cael gyrfa liwgar. Nawr, ac yntau'n 75 oed, mae'n cloriannu ei fywyd - o weithio mewn ffatri fenyg i lwyfannau mwya'r byd - yn ei hunangofiant 'Over the Top and Back'.
Mae Cymru Fyw yn cael golwg nôl ar yrfa ddisglair y canwr o Bontypridd trwy gyfrwng oriel luniau:

"Hei, shwt mae gyrru hwn te byt?"

"Gob'ithio neith y ruffles ar y crys 'ma gadw fy nhrowsus i lan"

"Gwell i mi beidio chwythu'n nhrwyn yn hwn sbo!"

"Lwcus fod Mark y mab yn ddigon hen, neu mi fyswn i yn cael ffein am smoc'o yn y car yng Nghymru!"

"Na... na... peidiwch dweud wrtha'i... prifddinas Ffrainc yw... ?"

"Mi welais Jac y do... yn eistedd ar ben to... het wen am ei ben..."

"Jiw, jiw, ma'n ôr mas fan hyn!"

"Mae rhain 'run oed â fi chi'n gwybod!"

"Un... dau... tri... pedwar... barod!"

"Damia! 'Wy wedi anghofio'r geiriau eto!"

"Paid edrych nawr... ond ma'r boi ma'n fy nilyn i..."

"Mae 'The Voice' wedi cae'l gwared ohona i! Beth 'wy'n feddwl ohonyn nhw? Bydd raid i chi ddarllen y llyfr!"
Cafodd fersiwn o'r oriel hon ei chyhoeddi gyntaf ar Cymru Fyw yn ystod Haf 2014