Ymchwiliad i farwolaethau milwyr
- Cyhoeddwyd
Mae penaethiaid y fyddin wedi derbyn gorchymyn i gynnal dau ymchwiliad yn dilyn marwolaeth tri milwr wrthgefn yn ystod ymarferiad SAS ar Fannau Brycheiniog.
Bu farw'r Is-gorpral Craig Roberts o Fae Penrhyn ger mynydd Pen-y-Fan ym mis Gorffennaf 2013, a bu farw dau filwr arall, yr Is-gorpral Edward Maher a'r Corpral James Dunsby, yn yr ysbyty yn ddiweddarach.
Bydd un ymchwiliad newydd yn edrych os yw'r lluoedd arfog wedi dysgu gwersi am ddiogelwch milwyr yn dilyn y marwolaethau.
Dywedodd Gweinidog y Lluoedd Arfog Penny Mordaunt wrth y Weinyddiaeth Amddiffyn y bydd yr ymchwiliad arall yn edrych ar y gofal gafodd ei gynnig i deuluoedd y tri milwr yn dilyn y marwolaethau, ac yn adolygu anghenion hyfforddiant yr unedau milwrol wrthgefn oedd yn rhan o'r digwyddiad.
Cwest
Daw ymateb y gweinidog yn dilyn cwest i'r marwolaethau, ddaeth i ben ym mis Gorffennaf, bron i ddwy flynedd union ar ôl i'r milwyr farw.
Fe benderfynodd y crwner Louise Hunt y byddai'r tri milwr wedi goroesi petai'r ymarferiad wedi dod i ben pan aeth milwyr eraill yn sâl ar y diwrnod.
Roedd y tri wedi dioddef o effeithiau hyperthermia - sef gwres corff anarferol o uchel - yn dilyn esgeulustod ar y daith 16 milltir o hyd meddai'r crwner. Dywedodd Ms Hunt bod diffyg gofal meddygol sylfaenol wedi cyfrannu at eu marwolaethau.
Mae'r gweinidog nawr wedi ymateb i nifer o bryderon gafodd eu codi gan y crwner, ac mae hi wedi ysgrifennu at Ms Hunt yn dweud: "Rydym yn sylweddoli'n llawn pa mor bwysig yw hi ein bod yn dysgu pob gwers posib i sicrhau bod modd osgoi marwolaethau yn y dyfodol o dan yr un amgylchiadau."
Ychwanegodd Ms Mordaunt: "Rydym wedi ein hymrwymo i gefnogi ein milwyr a'u teuluoedd ac rydym yn cydnabod yn llawn ei fod yn annerbyniol i golli tri milwr o dan y fath amgylchiadau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Awst 2015
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2015
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2015
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2015